Dyma’r cyntaf mewn cyfres o golofnau gan Elin Barker, garddwraig sy’n gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae Elin yn Uwch Gadwraethydd Gerddi ac wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers chwe blynedd. Y tro yma mae hi’n edrych ar addurniadau Nadolig trwy’r oesoedd…
Yn Sain Ffagan, mae tymor y Nadolig yn gyfle i ddathlu treftadaeth Gymreig drwy addurniadau traddodiadol. Bob blwyddyn, mae ein timau garddio a churadurol yn cydweithio i addurno adeiladau hanesyddol yr amgueddfa. Maen nhw’n addurno’r adeiladau gyda thorchau sy’n cynrychioli’r gwahanol gyfnodau.
Bythynnod Rhyd-y-Car
Cafodd bythynnod Rhyd-y-Car eu hagor yn Sain Ffagan yn 1987. Roedd y bythynnod wedi cael eu hail-godi o Ferthyr Tudful lle cawson nhw eu hadeiladu tua 1795. Y meistr haearn Richard Crawshay oedd wedi adeiladu’r bythynnod.
Roedd y rhes o chwe bwthyn carreg yn gartref i weithwyr haearn a’u teuluoedd.
Heddiw, mae pob bwthyn wedi cael ei ddodrefnu i gynrychioli cyfnod gwahanol: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, a 1985. Mae hyn yn helpu ymwelwyr i brofi bron i ddwy ganrif o fywyd cartrefol, o symlrwydd Cymru ddiwydiannol gynnar i’r 20fed ganrif.
Mae’r tŷ o 1895 yn Rhyd-y-Car wedi’i addurno gyda thorch sydd wedi’i gwneud o blanhigion bytholwyrdd naturiol. Mae’n adlewyrchu’r planhigion oedd ar gael i deuluoedd yng Nghymru ddiwydiannol yn y 19eg ganrif.
Byddai celyn, eiddew a gwyrddni arall ar gael yn hawdd. Roedden nhw’n cael eu defnyddio i symboleiddio bywyd a gobaith yn ystod misoedd y gaeaf. Mewn cyferbyniad, mae’r tŷ o 1985 yn dangos torch fodern. Mae wedi’i haddurno gydag addurniadau plastig a gliter.
Mae’n adlewyrchu ffasiwn yr 20fed ganrif pan ddaeth addurniadau siop yn boblogaidd.
Mae’r torchau yma yn dangos sut mae traddodiadau’r Nadolig wedi esblygu yng Nghymru.
Torchau yn adlewyrchu hanes yr adeiladau
Yn ogystal â bythynnod Rhyd-y-Car, mae sawl adeilad arall yn Sain Ffagan wedi’u haddurno gyda thorchau a gwyrddni ar gyfer y tymor Nadoligaidd. Mae pob torch wedi cael ei chreu i adlewyrchu hanes yr adeilad y mae’n ei addurno.
Mae’n cynnwys Bwthyn Llainfadyn sydd wedi’i ddodrefnu fel yn 1870, a Ffermdy Llwyn-yr-eos, sy’n dangos fel y byddai wedi edrych yn y 1930au. Y tu mewn i’r tai, mae garlands ac addurniadau naturiol eraill. Mae’n cynnig cipolwg ar sut mae teuluoedd Cymreig wedi dathlu’r Nadolig trwy gydol hanes.
I mi, mae gwneud torchau yn atgof o sut mae ein gwaith fel garddwyr yn cysylltu’n uniongyrchol â chadw traddodiadau Cymreig.
Mae’r gwyrddni ’dan ni’n casglu – celyn, eiddew a phlanhigion bytholwyrdd eraill – wedi bod yn rhan o ddathliadau’r Nadolig ers canrifoedd. Mae’n cysylltu ni gyda’r bobl oedd yn byw yn y cartrefi yma.
Dewch i Sain Ffagan y tymor Nadolig hwn i weld y torchau a’r addurniadau yma – mae’n gyfle perffaith i fwynhau hud yr hen Nadolig.