Mae Debbie Smith yn byw yng Nghanada. Mae hi’n dysgu Cymraeg. Mae Debbie yn mwynhau ysgrifennu. Mae hi wedi ysgrifennu stori fer am Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Mae Dydd Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu ar 25 Ionawr bob blwyddyn.


Act I – Denu Dyn

Cododd Dwynwen ei basged a cherdded i lawr y bryn i’r farchnad i brynu bara gan yr hen bobydd. Cyrhaeddodd y stondin bara ond, yn lle gweld yr hen ddyn, roedd dyn ifanc â llygaid gwyrdd pefriog yn sefyll yno.

“Mae e’n sbesimen gwych,” meddyliodd hi.

“Ga’i eich helpu chi?” gofynnodd e.

Edrychodd hi i’w lygaid am amser hir. Daeth e’n anghyfforddus.

“Hoffech chi rywbeth?” gofynnodd e.

“Hoffwn i ti fel fy ngŵr,” meddyliodd hi.

“Un dorth, os gwelwch yn dda,” meddai hi’n freuddwydiol. Talodd hi am y dorth, troi, a cherdded i ffwrdd. Oedd e’n edrych arni hi? Edrychodd hi dros ei hysgwydd. Nac oedd, doedd e ddim.

Y diwrnod nesa, cododd Dwynwen yn gynnar. Roedd hi eisiau edrych yn harddwych. Ymolchodd hi yn yr afon, brwsio ei gwallt, rhwbio lafant o dan ei cheseiliau a chnoi ar ddail mintys. Doedd dim diaroglydd a phast dannedd yn y bumed ganrif.

Cododd hi ei basged a cherdded i lawr y bryn i’r farchnad. Cyrhaeddodd hi’r stondin. Roedd e yno. Safodd hi yno, edrych i mewn i’w lygaid a gofyn am dorth. Gwerthodd e dorth iddi hi. Parhaodd i edrych i mewn i’w lygaid.

“Gallech chi symud ymlaen, os gwelwch yn dda? Mae pobl eraill yn aros.”

Trodd Dwynwen a cherdded i ffwrdd.

Ar y trydydd diwrnod, gwelodd Dwynwen bwll mwdlyd bach ger y stondin. Roedd hi’n gallu cerdded o gwmpas y pwll ond wnaeth hi ddim. Arhosodd hi nes bod y dyn ifanc wedi ei gweld. Wedyn, defnyddiodd hi’r mwd fel esgus i godi ei sgert. Roedd dangos fferau’n beth gwarthus yn y bumed ganrif!

“Hoffech chi rywbeth?” gofynnodd e heb ddangos unrhyw ddiddordeb.

Prynodd hi dorth a mynd adref.

Ar y pedwerydd diwrnod, arhosodd Dwynwen nes bod hi ger y stondin ac agor careiau ei ffrog. Dim gormod. Dim ond digon. Cerddodd hi i’r stondin.

Gostyngodd llygaid y dyn i’w mynwes.

Dyna well,” meddyliodd Dwynwen.

Act II – Dweud wrth Dad

Aeth Dwynwen i mewn i siambr ei thad a dweud wrtho fe, â llygaid serennog, ei bod hi wedi dod o hyd i’w gwir gariad a Maelon oedd ei enw.

“Y bachgen bara?!” gwaeddodd ei thad. “Wyt ti’n cellwair? Dw i’n ei wahardd! Dw i wedi addo dy briodi i un arall.” Anfonodd e hi allan o’r siambr a chau’r drws yn glep.

Yn ei hystafell, criodd Dwynwen. Roedd ei chalon wedi torri. Y noson honno cyn gwely, penliniodd Dwynwen a gweddïo. Gofynnodd hi i Dduw am y gallu i anghofio Maelon.

Uwch ei phen, ymddangosodd niwl ac yn y canol roedd angel.

Fy mhlentyn druan,” meddai’r angel. “Yfa’r ddiod hon a byddi di’n anghofio eich gwir gariad.”

Doedd Dwynwen ddim yn ferch glyfar. Cymerodd hi’r ddiod gan y dieithryn. Yfodd hi’r ddiod ac, yn fuan, roedd hi’n cysgu. Pan ddeffrodd hi, roedd hi dal yn drist ac yn gweld eisiau Maelon. Yn waeth na hynny, daeth ei morwyn â’r newyddion bod Maelon wedi cael ei droi’n iâ!

“Dim angel oedd hwnnw,” meddyliodd hi. Penliniodd hi ar y llawr a gweddïo eto. Y tro hwn, clywodd Duw hi a rhoi tri dymuniad iddi hi.

Dymunodd hi fod Maelon yn rhydd o’r iâ. Yna dymunodd hi fod yn briod â Maelon. Wnaeth hi ddim defnyddio ei thrydydd dymuniad achos y cyfan roedd hi eisiau oedd bod yn briod â Maelon. Caeodd hi ei llygaid a breuddwydio am ei bywyd gyda Maelon.

Act III – Gwynfyd Priodasol

Symudodd y pâr priod i Ynys Llanddwyn. Yno gallen nhw fod ar eu pen eu hunain. Dim ond y ddau ohonyn nhw. Dydd ar ôl dydd.

Dysgodd Dwynwen yn fuan doedd priodi Maelon ddim mor berffaith ag yn ei breuddwydion. Daeth e i’r gegin yn gwisgo esgidiau mwdlyd, gadael ei hosanau ar lawr yr ystafell wely, a gadael sedd y toiled i fyny.

Un diwrnod, pan oedd Maelon wedi gwahodd ei fam i’w gweld heb ddweud wrthi hi, penliniodd Dwynwen a gweddïo. Defnyddiodd hi ei thrydydd dymuniad i ofyn i Dduw wneud ei phriodas yn berffaith.

Rhoddodd Duw drydydd dymuniad Dwynwen. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd Dwynwen yn cnoi gyda’i cheg yn agored, cracio ei migwrn yn ddi-baid, ac yn gadael ei staes ar y llawr.

Y DIWEDD