Dyma stori feicro gan Catherine Howarth – roedd hi wedi ennill y Tlws Rhyddiaith yn Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Ddwyrain Cymru eleni.
Mae’r stori yn seiliedig ar stori wir am fam Catherine yn ystod y cyfnod clo. Dywedodd y beirniad bod y stori wedi dod “â deigryn i fy llygaid, a dyna ydy arwydd o lenor go-iawn.”
Mae Catherine yn byw yn Sir Ddinbych. Mae hi’n aelod o ddosbarth Uwch, ac yn diwtor dosbarth Mynediad efo Popeth Cymraeg.
Trodd Margaret yr allwedd yn y drws a cherdded yn araf yn ôl i mewn i’w fflat bach. Wel dyma ni! Hon fyddai ei chell carchar am y 12 wythnos nesaf neu fwy. Dylai pawb dros 70 oed hunan-ynysu roedd Boris wedi dweud. Sut bynnag oedd hi’n mynd i ymdopi; roedd hi’n berson cymdeithasol iawn! Dim canu yn yr un o’i phedwar côr. Dim mwy yn gweithio yn y siop elusen ddau fore’r wythnos. Dim mwy o eglwys, dim mwy o gwrdd â ffrindiau am banad a chrwydro o amgylch y siopau. Ac eleni bydd hi’n nawdeg oed! Sut bynnag gallai dathlu o dan amgylchiadau fel hyn?
Ar ôl rhai diwrnodau o wylio teledu a gweu, roedd ’na gnoc ar y drws. Cyn hyn, roedd ei drws hi wastad ar agor ac roedd hi’n gweiddi “dewch i mewn”, ond y tro yma aeth hi i ateb y drws. Yn sefyll yn bell o’r drws oedd ei chymydog Theresa. “Dw i’n mynd i Tesco, wyt ti isio unrhyw beth?” meddai hi. Roedd Margaret yn ddiolchgar iawn am y cynnig, ond hefyd i weld person arall, wyneb i wyneb; eisoes roedd hyn yn teimlo mor rhyfedd ond mor aruthrol! Rhai diwrnodau wedyn meddyliodd Margaret: “fi fydd yr un i fynd i Tesco ar gyfer eraill” – doedd oed ddim yn rhwystr iddi hi ac mae pawb angen bwyta!
Aeth hi o gwmpas ei chymdogion i weld beth maen nhw angen. Roedd pawb angen sgwrs mwy na dim byd arall, ac os oedden nhw’n cadw dau fetr ar wahân a ddim yn mynd i mewn i fflatiau ei gilydd, doedden nhw ddim yn torri’r rheolau. Roedd cael siarad gyda phobl yn dro ar fyd ac yn helpu pawb i ymdopi efo’r cyfnod rhyfedd yma.
Daeth dyddiau cynhesach y gwanwyn yn gynnar fel petai’r byd yn gwybod bod ei angen yn fwy nag erioed eleni. Gallai’r preswylwyr eistedd tu allan yn yr ardd gymunedol yn mwynhau cwmni ei gilydd ac nid oedden nhw erioed wedi gwerthfawrogi ei gilydd mwy.
Roedd gan y fflatiau reolwr felly gadawyd y trigolion i drefnu eu hunain a dyna beth wnaethon nhw efo hwrdd o frwdfrydedd. Crëwyd creigwaith newydd, prynwyd mwy o seddi a chynlluniwyd barbeciws. Daeth y ‘clap i ofalwyr’ bob nos Iau yn ddigwyddiad cymdeithasol. Ar ôl mynd allan ar y stryd a churo eu sosbenni, doedd neb isio mynd yn ôl i’w fflatiau. Wnaethon nhw ddechrau chwarae bingo; prynwyd bwrdd dartiau a cychwynnwyd cystadleuaeth. Ysgrifennodd Steve gwis bob ychydig wythnosau. Roedd Margaret, ynghyd â’r trigolion eraill, yn edrych ymlaen at y nosweithiau hyn. Daethon nhw hefyd i adnabod trigolion tawelach eraill nad oedd erioed wedi ymuno â’r digwyddiadau o’r blaen. Roedden nhw’n dod yn gymuned mor glos, gan ofalu am ei gilydd.
Wrth i’r gaeaf ddechrau gafael a’r firws ddod yn ôl, roedd 90fed Margaret yn agosáu. Sylweddolodd hi na fyddai hi ddim yn dathlu a, gyda’i merch yn byw dros y ffin, fyddai hi ddim yn gallu ymweld chwaith. Wedyn wnaeth Theresa alw. Roedd hi wedi cael syniad gwych. Felly ar ei diwrnod arbennig – yn gwisgo coron a sash roedden nhw wedi gwneud – roedd Margaret yn eistedd ar gadair arbennig ar ddiwedd y coridor hir. Eisteddodd y cymdogion eraill wrth eu drysau a dosbarthodd Theresa de prynhawn iddyn nhw. Myfyriodd Margaret ar y gymuned wych yr oedd hi’n byw ynddi a sut roedden nhw wedi troi’r adegau gwaethaf yn gyfnod mor gofiadwy.