Dyma stori fer gan Pegi Talfryn. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg. Mae’r stori mewn tair rhan. Bydd y rhan olaf yn cael ei chyhoeddi ar Ddydd Calan (Ionawr 1). Ond mae angen i chi sgwennu’r diweddglo! Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Dych chi’n gallu sgwennu rhan olaf y stori? Dych chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau…
Mi edryches i o gwmpas. Ro’n i ar y llawr tu allan. Roedd hi’n bwrw eira. Ro’n i’n gorwedd yn yr eira.
Ro’n i’n oer iawn, iawn. Yn sydyn mi glywes i lais.
“Beth wyt ti’n ei wneud yma?” Mi edryches i a gweld dyn.
Dyn mewn dillad hen-ffasiwn. Roedd o’n gwisgo côt wlân hir efo colar melfed.
Roedd o’n gwisgo crys gwyn efo rhyw fath o sgarff oedd yn mynd rownd a rownd ei wddw fo. Roedd o’n gwisgo het uchel
ac yn cario ffon gerdded. Roedd o’n olygus iawn, efo gwallt du tonnog a llygaid brown tywyll.
“Pwy wyt ti? Coda, hogyn!”
“Dw i ddim yn hogyn,” meddai fi, gan godi yn fy nhop sequins i a throwsus du.
“Geneth wyt ti? Mewn trowsus?”
“Geneth oer iawn. Ga i help i gynhesu os gwelwch yn dda?” Ro’n i’n crynu.
“Wrth gwrs,” atebodd o. Mi roddodd ei gôt o ar fy ysgwyddau i. Mi aethon ni i blasty.
Doedd dim ceir o gwmpas y plasty ond roedd ceffylau a chartiau. Mi aethon ni i mewn i’r plasty.
Roedd pawb yn gwisgo dillad hen-ffasiwn. Roedd hi’n edrych fel Pride and Prejudice. Mi wnaeth y dyn alw ar forwyn.
“Alys. Mae’r ddynes ifanc ’ma wedi dod i’r tŷ. Mae hi’n oer. Mae hi angen dillad. Fedri di roi hen ddillad Rhiannon iddi hi?”
“Dewch efo fi,” meddai Alys. Mi aethon ni i fyny grisiau ac i mewn i ystafell oer.
“Hon oedd ystafell Rhiannon, chwaer y meistr,” meddai Alys.
“Mae hi wedi marw ers tair blynedd.”
Mi helpodd Alys fi i wisgo. Roedd gen i bais, yna sgert wlân drwchus a rhyw fath o flows oedd fel siaced.
Yna roedd ffedog a sgarff i fynd o gwmpas fy ngwddw i.
“Beth sydd wedi digwydd i dy wallt di?” gofynnodd Alys.
Do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Roedd hi’n amlwg bod gwallt byr ddim yn ffasiwn yma.
“Mi wnawn ni roi cap wen ar dy ben di i guddio popeth,” meddai Alys.
Yna mi aeth Alys â fi at ei meistr hi.
“Siarl Tudur ydw i. Meistr y Plas. Pwy dach chi? O lle dach chi’n dŵad?”
Beth oeddwn i’n medru ei ddweud? Dim byd credadwy.
“Mae’n ddrwg gen i,” atebais i. “Dw i ddim yn medru cofio. Dw i ddim yn gwybod lle ydw i na pha flwyddyn ydi hi.”
“Rhaid bod y sioc yn ormod i chi. Dach chi ym Mhlas y Berwyn, Dinbych. Dan ni yn y flwyddyn 1817.”
Sut oedd hynny wedi digwydd? Ro’n i wedi teithio mewn amser!
“Dach chi’n cofio unrhyw beth o gwbl?”
“Ro’n i’n gweithio mewn gwesty.”
“Dach chi’n medru darllen?”
“Yndw, wrth gwrs.”
“Beth am symiau?”
“Yndw.”
“Dw i’n chwilio am rywun sy’n medru darllen, ysgrifennu a gwneud symiau i helpu efo’r busnes o redeg y plasty. Dach chi’n medru gwneud y gwaith?”
“Mi wna i drio fy ngorau.”
“Reit. Mi gewch chi gysgu yn yr ystafell ddrws nesa i Alys. Mae digon o hen ddillad Rhiannon yma i chi. Ond os byddwch chi’n cofio rhywbeth ac isio mynd nôl dach chi’n rhydd i adael.”
“Diolch.”
Mi aeth blwyddyn heibio yn gyflym iawn. Mi wnes i le i fy hun yn y plasty flynyddoedd cyn fy amser i. Ro’n i’n medru helpu’r meistr. Mi wnes i siarad efo fo bob dydd. Gyda’r nos, weithiau, mi faswn i’n eistedd efo fo o flaen y tân ac yn siarad. Wnes i ddim sôn am fy ngorffennol i. Fasa fo ddim yn medru credu fy hanes i.
Ro’n i wedi teithio mewn amser. Dw i ddim yn gwybod sut. Ro’n i wedi ffeindio hapusrwydd. Ro’n i’n hapus yn y plasty. Roedd gen i waith. Mi wnes i ffrindiau efo’r bobl eraill. Ac ro’n i’n mwynhau siarad efo’r meistr.
Mi ddaeth y Nadolig. Mi ges i sgarff sidan gan y meistr. Yna daeth Nos Galan. Mi wnaeth pawb ddechrau cyfri i lawr.
Deg, naw, wyth, saith, chwech, pump, pedwar, tri, dau, un… BLWYDDYN NEWYDD DDA!
Mi ddechreuodd Siarl blygu lawr i roi sws i mi. Ond wrth i wefusau’r meistr gyffwrdd â fy ngwefusau i, aeth popeth yn ddu.
Ro’n i’n teimlo fel taswn i’n mynd i lawr twnel. Roedd popeth yn oer. Roedd popeth wedi stopio symud. Mi aeth popeth yn boeth.
Lle ro’n i?
Bydd y rhan olaf yn cael ei chyhoeddi yfory…