Dyma stori fer gan Pegi Talfryn. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg. Mae’r stori mewn tair rhan. Bydd y rhan nesaf yn cael ei chyhoeddi yfory (Nos Galan) a’r rhan olaf ar Ddydd Calan (Ionawr 1). Ond mae angen i chi sgwennu’r diweddglo! Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Dych chi’n gallu sgwennu rhan olaf y stori? Dych chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau… 


Blwyddyn arall wedi mynd. D’on i ddim isio mynd i’r parti. Doedd gen i ddim byd i’w ddathlu.

Ond roedd Lowri’n mynnu. Mae Lowri’n rhannu fflat efo fi. Mae gynni hi fywyd braf. Mae hi’n gweithio efo’r Cyngor.

Mae gynni hi gariad. Mae gynni hi ddigon o bres.

Erin Morgan dw i. Ro’n i’n gweithio mewn gwesty. Ond roedd y gwesty wedi cau. Rŵan dw i’n ddi-waith. Mi ges i Nadolig ofnadwy heb ddim pres, heb ddim gwaith.

Tyrd ymlaen,” meddai Lowri. “Rhaid i ti ddod i’r parti. Blwyddyn newydd, dechrau newydd. Rhaid i ti ddechrau’r flwyddyn newydd yn hapus.”

Felly dyna lle ro’n i mewn parti blwyddyn newydd. Ro’n i’n gwisgo yr un dillad â llynedd: Top oren efo sequins o Matalan. Roedd oren yn boblogaidd llynedd. Mae oren yn edrych yn od eleni. Mae un sequin wedi syrthio. Ro’n i’n gwisgo’r un sgidiau â llynedd: hanner sandalau, hanner trenars. Ro’n nhw’n boblogaidd llynedd. Maen nhw’n edrych yn dwp eleni.

Roedd Lowri’n edrych yn fendigedig. Roedd hi’n gwisgo gwisg undarn du. Melfed oedd y deunydd. Roedd hi’n edrych fel seren ffilmiau. Roedd hi’n medru cerdded yn hyderus mewn stilettos.

Ac roedd Gareth, ei chariad hi, yn edrych yn fendigedig. Mae o’n dipyn o bishyn.

Roedd Lowri’n dawnsio efo Gareth. Ro’n i’n eistedd yn y gornel.

Yn sydyn, mi glywes i lais. “Tisio dawnsio? Mae hi bron yn hanner nos.”

Mi edryches i, a gweld Aled. Roedd Aled yn gweithio efo fi yn y gwesty.

Do’n i ddim yn ffrindiau mawr efo fo. Ond roedd dawnsio efo rhywun yn well na dawnsio efo neb.

Mi ddechreuon ni ddawnsio, ond yn sydyn dyma’r gerddoriaeth yn stopio a phawb yn dechrau cyfri i lawr.

Deg, naw, wyth, saith, chwech, pump, pedwar, tri, dau, un…

BLWYDDYN NEWYDD DDA!

Mi ddechreuodd Aled blygu lawr i roi sws i mi. Ych a fi!  Do’n i ddim isio cusanu Aled! Ond wrth i wefusau Aled gyffwrdd â fy ngwefusau i, aeth popeth yn ddu.

Mi deimles i fel taswn i’n mynd i lawr twnel. Roedd popeth yn oer. Mi stopiodd y symud.

Lle ro’n i?


Bydd rhan dau yn cael ei chyhoeddi yfory…