Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.


Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd.

Beth ydy ystyr y geiriau?

Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?

Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?

rhyfel – heddwch

cyfoethog – tlawd

cymryd – rhoi

parhaol – dros dro

gwag – llawn

llawer – ychydig

peryglus – diogel

hael – cybyddlyd

clocwedd – gwrthglocwedd

derbyn – gwrthod