Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd.
Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
hen – ifanc
arferol – anarferol
gwthio – tynnu
hawdd – anodd
sengl – priod
mwyaf – lleiaf
cynilo – gwario
defnyddiol – diddefnydd
gweladwy – anweladwy
i fyny/lan – i lawr
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau.