Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd.
Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
cywir – anghywir
cefn – blaen
creulon – caredig
rhannu – lluosi
gosgeiddig – llechtwith
tebyg – annhebyg
arnofio – suddo
effeithiol – aneffeithiol
pwysig – dibwys
diolchgar – anniolchgar