Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd.
Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
cyfiawn – anghyfiawn
tristwch – llawenydd
cyntaf – olaf
arwain – dilyn
trwm – ysgafn
llac – tynn
goleuo – tywyllu
mewnfudo – allfudo
hael – cybyddlyd
pendant – amheus