Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd. Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
cymhleth – hawdd
canmol – sarhau
tywyll – golau
dwfn – bas
esgyn – disgyn
pell – agos
cynnar – hwyr
gwag – llawn
diwedd – dechrau
odrif – eilrif
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.