Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd. Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
bywiog – difywyd
derbyn – gwrthod
ymlaen – yn ôl
drud – rhad
byw – marw
hynafol – modern
sicr – ansicr
effro – cysgu
dewr – ofnus
poeth – oer
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.