Dach chi’n credu gallwch chi syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf? Mae Siân Phillips yn. Mae hi’n byw yn Rhydwyn ar Ynys Môn gyda’i gŵr Nektarios. Mae Siân yn dysgu Cymraeg gyda Popeth Cymraeg (lefel Sylfaen). Dyma ei stori…


Siân a Nektarios gyda’i fam ar ol iddyn nhw ddyweddio

Fy rhamant gwyliau i

Ydych chi’n aros am eich gwyliau haf?

Ydych chi’n gobeithio am ramant gwyliau?

Ydych chi’n credu mewn cariad ar yr olwg gyntaf?

Doeddwn i ddim!

 

Ond ym 1984 mi es i Athen a mynd ar gwch i ynys fechan Spetses yng Ngwlad Groeg.

Ar ôl i mi gyrraedd, mi es i mewn bygi ceffyl i fy fflat. Roedd fy ngyrrwr yn Adonis Groegaidd.

Oeddwn i mewn cariad?

O ie!

 

Am ddeg diwrnod roedden ni gyda’n gilydd bob eiliad.

Ar ddiwrnod unarddeg mi aeth fy Adonis i ddechrau ei Wasanaeth Cenedlaethol ym myddin Gwlad Groeg am ddwy flynedd.

 

Oedd fy nghalon wedi torri?

O ie!

 

Mi es i yn ôl i Spetes ar ôl dwy flynedd ac roedd yn aros amdana’i.

Wnaeth ein cariad barhau?

Wrth gwrs!

 

Mae ein pen-blwydd priodas 30 mlynedd yn fuan.

 

Pwy sy’n dweud fod cariad ar yr olwg gyntaf yn amhosibl?

Pwy sy’n dweud fod rhamantau gwyliau ddim yn gweithio?

Ddim ni!

Gwlad Groeg