Mae Graham Welch yn byw yn Rhuthun gyda’i wraig, Bethan. Mae’n dysgu Cymraeg gyda Popeth Cymraeg.

Mae o wedi ysgrifennu cerdyn post at Lingo360. Mae’n dweud ychydig am ei daith i Sardinia…


Y llynedd mi gaethon ni wyliau byr yng ngogledd ynys Sardinia. Mae llawer o bobl yn adnabod yr ynys hon wrth ei arfordir bendigedig a’r traethau ysblennydd.

Mae’n wir eu bod nhw’n syfrdanol, ond mae ’na agweddau arall i’r lle sydd yr un mor atyniadol i ymwelwyr. Y mynyddoedd, er enghraifft, sy’n greigiau o wenithfaen gan mwyaf, wedi erydu mewn ffurfiau ffantastig.  Mae cefn gwlad yr ynys yn annisgwyl o wyrdd, efo llawer o goed. Ond ar yr arfordir gorllewinol, mae’r clogwyni wedi eu cuddio gan lwyni hardd a lliwgar, fel Gerddi Kew ger y môr.

Ynys Sardinia

Mae’r dinasoedd yn ddiddorol hefyd: yn enwedig Alghero ar yr arfordir gorllewinol. Dinas Catalan oedd hi yn yr amseroedd gynt.

Alghero yw’r unig ddinas yn yr Eidal lle maen nhw’n caniatáu enwi’r strydoedd mewn iaith wahanol i Eidaleg – sef Catalaneg. Mae’r waliau anferth o gwmpas yr hen dref yn dyddio nôl i’r Oesoedd Canol.

Mae’r holl adeiladau o fewn y waliau yn wenithfaen neu dywodfaen ond popeth o’r un lliw aur, ac yn hyfryd iawn.

Gwahanol eto ydy’r dirwedd yng nghanol yr ynys, lle mae cefn gwlad yn eithaf uchel ond weithiau heb fynyddoedd gormesol.

Y ‘nuraghe’, sef tyrau megalithig hynafol o’r Oes Efydd

Tipyn bach fel Trawsfynydd, ro’n i’n meddwl, efallai achos ar y diwrnod hwn roedd y tywydd yn gymylog, gwyntog a braidd yn oer!  Y prif reswm dros ein hymweliad yno oedd gweld ‘nuraghe’, sef tyrau megalithig hynafol o’r Oes Efydd yng nghefn gwlad.

Mae ’na fwy na saith mil ohonyn nhw dros ynys Sardinia ac, amser maith yn ôl, roedd ‘na lawer mwy.  Mi gafon nhw eu hadeiladu o feini anferth, gyda phob un yn pwyso llawer o dunelli. Does neb yn gwybod pwrpas y nuraghe, mae’n debyg eu bod nhw’n demlau, neu gadarnleoedd, neu’n symbolau statws i’r bobl bwysig yn yr ardal ar y pryd. Pedair mil o flynyddoedd yn ôl…

Ynys lawn syrpreisys ydy Sardinia. Mae’n werth y daith!

Hanes y ‘nuraghe’