Mae Sonya Williams yn dŵad o Walsall yn wreiddiol. Mae hi’n byw yn Llanbedr ger Harlech rŵan. Mae hi’n gweithio mewn tafarn yn y pentre.
Mae hi wedi ysgrifennu cerdyn post at Lingo360. Mae hi’n dweud ychydig am ei thaith i Sri Lanka…
Ym mis Ionawr es i ar wyliau i Sri Lanka am bythefnos. Mi wnes i hedfan o Fanceinion i Columbo.
Yr wythnos gynta’ mi wnes i aros mewn gwesty ar draeth Hikkaduwa sy’n boblogaidd gyda syrffwyr. Roedd y tywydd yn braf a chynnes ond roedd hi’n bwrw glaw yn drwm dros nos weithiau. Yna es i mewn i’r rhanbarthau mynyddig lle mae llawer o blanhigfeydd te.
Roedd y daith trên o Ella i Kandy yn arbennig o hardd.
Es i i’r Gerddi Botanegol Brenhinol tu allan i Kandy lle mae dros 4,000 o wahanol fathau o blanhigion.
Mi wnes i weld llawer o wahanol anifeiliaid – mwncïod, eliffantod, madfallod ac adar rhyfedd yr olwg.
Roedd y bwyd yn flasus iawn – llawer o bysgod a chyri.