Roy Nasse dw i. Dw i’n dod o Lundain yn wreiddiol. Dw i wedi bod yn byw yn Rhuthun ers pedair blynedd. Mae fy ngwraig Cathryn yn dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol ac achos ei hiaith gyntaf yw Cymraeg, mi wnes i ymuno â Popeth Cymraeg i ddysgu’r iaith.
Mae fy ngwraig a fi yn hoffi mynd ar wyliau. Ers diwedd y cyfnod clo rydyn ni wedi dechrau trafeilio eto. Ym mis Ionawr eleni mi aethon ni i Kerala yn India ac roedd y tywydd yn 32 gradd bod dydd!
Mi wnaethon ni drafeilio o gwmpas Kerala. Yn gyntaf aethon ni i ddinas fawr Cochi.
Lle prysur iawn gyda llawer o hanes diddorol. Mi welon ni sioe draddodiadol ‘Kathakali’ yno. Roedd y gwisgoedd a’r perfformiad yn anhygoel.
Wedyn aethon ni i Munnar a dringo yn uchel i’r mynyddoedd i weld y planhigfeydd te. Roedden nhw mor hyfryd.
Yna mi aethon ni i’r ‘dyfroedd cefn’ sydd wedi eu gwneud o gamlesi, llynnoedd, morlynnoedd ac aberoedd.
Roedd y rhain yn llawn o gychod reis ac erbyn hyn mae pobl yn mynd ar wyliau arnyn nhw. Mi welais i las y dorlan a oedd mor lliwgar a llawer o adar eraill.
Mi aethon ni ar drên i’r de, i Thiruvananthapuram, ac yn araf bach mi wnaethon ni drafeilio yn ôl i fyny’r arfordir, trwy Varkala a gorffen ar y traeth yn Marari, lle hyfryd a distaw dros ben.
Mi gawson ni lawer o bysgod i’w bwyta yma.
Fe wnaethon ni helpu’r pysgotwyr i dynnu eu cwch i mewn hyd yn oed!
Gobeithio y cawn ni gyfle i ddychwelyd i India.
Namaste.