Mae Russell Owen yn byw yn Nwygyfylchi yn Sir Conwy gyda’i wraig, Sue. Mae Russell yn dod o Ddwygyfylchi yn wreiddiol ac roedd wedi symud yn ôl yno i fyw yno ar ôl iddo fo a Sue ymddeol yn 2017. Mae’n dysgu Cymraeg gyda Popeth Cymraeg. Roedd o wedi ymuno â chwrs ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Mae o wedi ysgrifennu cerdyn post at Lingo360. Mae’n dweud ychydig am ei daith i Guatemala yng Nghanolbarth America…
Ar hyn o bryd, mae fy merch a’i chariad yn seiclo o Denver yn yr Unol Daleithiau trwy Ganolbarth a De America. Ym mis Mawrth eleni roedd Sue a fi wedi teithio i Guatemala i gwrdd â nhw. Mae Sue a fi wedi teithio i nifer o wledydd yn Ne America ond dyma oedd ein taith gyntaf i Ganolbarth America.
Wnaethon ni hedfan i Ddinas Guatemala ac wedyn cael bws i’r gorllewin i ddinas o’r enw Quetzaltenango (Zela ydy’r enw byrrach). Roedd y bws wedi cymryd pum awr ac yn teithio ar gyflymder! Yn Zela, wnaethon ni gwrdd â Rhian a Chris. Roedden ni’n lwcus iawn i fod yn Zela yr adeg yma o’r flwyddyn. Roedd hi’n wythnos sanctaidd ac roedd gorymdeithiau ar hyd y strydoedd bob dydd. Roedden nhw’n werth eu gweld.
Diwrnod arall, aethon ni i ffynhonnau poeth yn y mynyddoedd. I gyrraedd yno, wnaethon ni deithio mewn tacsi, chicken bus [hen fws ysgol o’r Unol Daleithiau sydd wedi cael ei addasu ac yn aml mewn lliwiau llachar] ac yng nghefn tryc lle’r oedden ni’n eistedd ar gadeiriau plastig oedd ddim yn sownd i’r llawr!
Wnaethon ni fynd ar daith gerdded i lyn cysegredig Mayaidd (Laguna Chicabal) sydd mewn llosgfynydd sydd wedi diffodd, a 3,000 metr uwchben lefel y môr. Eto, roedd y daith i fyny’r mynydd mewn tryc ond o leia’ roedd y cadeiriau yn sownd ar y llawr y tro yma! Roedd pâr enfawr o gyrn bustych ar y bonet.
Yn ôl yn Zela, wnes i fynd i redeg ben bore ar y trac athletau. Gwelais y pencampwr ras gerdded cenedlaethol yn hyfforddi. Roedd yn cerdded o gwmpas y trac ar yr un cyflymder â phan dw i’n rhedeg fy ras 5km!
Ar ôl Zela, wnaethon ni deithio i Lyn Atitlán. Wnaethon ni fwynhau taith gerdded arall i weld llosgfynydd sydd wedi diffodd, nofio yn y llyn, caiacio, a nifer o deithiau cwch i weld y pentrefi o gwmpas y llyn. Ein stop nesaf oedd dinas drefedigaethol Antigua. Wnaethon ni fynd i weld llosgfynydd arall sydd wedi diffodd, Acatenango. Roedd wedi cymryd dau ddiwrnod i gerdded yno. Roedd ein gwersyll dros nos tua 3,500 metr uwchben lefel y môr. Roedden ni’n gallu gwylio – a theimlo – llosgfynydd byw Fuego gerllaw wrth iddo daflu creigiau a lafa i’r awyr.
O Antigua, wnaethon ni ddal bws dros nos i dref Flores. Mae’r dref ar ynys ar lyn Petén Itzá. Wnaethon ni fynd ar deithiau cwch a mwynhau’r traethau. Wnes i hefyd fynd i’r trac athletau i redeg am 6.30yb ac ymuno gyda rhai o’r bobl leol – gawson ni gwmni moch gwyllt hefyd!
Flores hefyd oedd y dref agosaf i safle Maiaidd Tikal gyda’i themlau uchel. Mae mewn lleoliad dramatig yn y jyngl.
Ein taith olaf oedd i Belize ac ynys fechan Caye Caulker yn y Caribî. Dw i ddim yn gallu nofio a dw i’n hoffi bod yn rhywle gyda bryniau lle dw i’n gallu mynd i redeg. Ond er syndod i fi, roeddwn i wrth fy modd gyda’r awyrgylch hamddenol ar yr ynys. Aethon ni ar daith snorcelio i weld rîff a wnes i hyd yn oed mynd i mewn i’r môr.
Ar ôl bron i bedair wythnos, wnaethon ni hedfan yn ôl i Lundain. Rydan ni’n edrych ymlaen at gwrdd â Rhian a Chris eto – o bosib yn Bolifia neu un o drefi Cymreig Patagonia. Efallai ga’i gyfle i ymarfer fy sgiliau Cymraeg yno hefyd!