Mae Rajan Madhok yn byw yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Roedd Rajan yn feddyg ond bellach wedi ymddeol. Mae o wedi bod ar wyliau ym mhentref Trefil ym Mlaenau Gwent. Yma mae’n dweud mwy am yr ardal


Enfys wedi’r glaw yn Nhrefil

Mae pentre’ Trefil ym Mlaenau Gwent a daethon ni yma am ddau reswm.

Un, fel meddyg, mae gen i ddiddordeb yn Nye Bevan a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Hefyd, Trefil ydy’r pentref agosaf at Dredegar – dyma ble oedd y GIG wedi dechrau.

Ac yn ail, roedden ni eisiau ymweld â’r Cymoedd a dysgu am hanes diwydiannol Cymru, a gweld ardal newydd i ni, yn arbennig i Helen sy’n gweithio fel artist.

Aethon ni i Drefil ym mis Medi – ar ôl y tymor twristiaeth prysur a chyn iddi fynd yn oer iawn. Ond doedden ni ddim wedi dianc rhag y glaw!

Mi wnaethon ni aros mewn hen dŷ. Roedden ni wedi cyfarfod rhywun oedd wedi dweud bod ei hen daid a hen nain wedi byw yno. Roedd ganddyn nhw 16 o blant. Mae hi’n anodd deall sut oedden nhw’n byw mewn tŷ mor fach gyda dim ond dwy ystafell wely!

Wnaethon ni aros yno am bum diwrnod. Yn anffodus doedden ni ddim wedi gallu mynd i fwyty adnabyddus ‘Top House’ am ei fod ar gau. Mi fydd yn rhaid i ni fynd i Drefil eto!

Canolfan Treftadaeth Tredegar sy’n cynnwys hanes Nye Bevan

Nye Bevan

Ro’n i’n gwybod am Nye Bevan yn barod ond wnes i fwynhau siarad efo pobl amdano ac ymweld â’r amgueddfa leol a’r Ganolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar ble mae llawer o hanes a phethau am feddygaeth a’r GIG.

Roedd Nye Bevan yn ymroddedig iawn i wella iechyd a thai pobl. Mae’n cael ei alw’n  “bensaer y GIG”. Rydyn ni angen rhywun fel fe nawr! Trefil oedd hoff le Nye Bevan, ac roedd yn hoffi cerdded o gwmpas y pentre’ a’r cymoedd. Mae ’na blac er cof amdano yno a lle cafodd ei lwch ei wasgaru.

Rajan Madhok yn paratoi i fynd dan ddaear ym Mhwll Mawr

Dw i’n licio darllen am Gymru ac yn arbennig am ei hanes diwydiannol a bywyd y bobl oedd yn gweithio yno, felly roedd yn dda i ddysgu am y diwydiant mwyngloddio. Mae ’na lawer o enghreifftiau o hanes diwydiannol yr ardal.

Roedden ni wedi ymweld â rhai trefi a phentrefi ger Trefil ac aethon ni i Flaenafon lle wnes i fynd i lawr ‘Pwll Mawr’. Doedd Helen ddim eisiau mynd i lawr. Doedd bywyd ddim yn hawdd i’r glowyr ac roedd yn waith caled iawn gweithio dan ddaear ac roedd mor dywyll.

Roedden ni hefyd wedi mynd i weld ffilm yn y Market Cinema ym Mrynmawr, y sinema hynaf yng Nghymru.

Chwareli

Mae Trefil yn enwog am ei chwareli a’i chymoedd ac wedi bod yn lleoliad ar gyfer nifer o ffilmiau a rhaglenni fel Doctor Who a Wrath of the Titans. Mae un chwarel yn Nhrefil yn dal i weithio ond mae nifer wedi cau. Cerddon ni o gwmpas y pentref a dilyn y ffordd lle’r oedd tramffordd yn arfer rhedeg rhwng Trefil a Glyn Ebwy. Mae’r golygfeydd yn gymysgedd o lefydd diwydiannol a defaid! Un peth diddorol iawn oedd y siediau tun o gwmpas yr ardal.

 

Olion o hanes diwydiannol yr ardal

Roedden nhw’n arfer cael eu defnyddio gan ffermwyr yn y gorffennol. Penderfynodd Helen ddysgu mwy am hynny a daeth o hyd i The Corrugated Iron Appreciation Society ac mae hi wrth ei bodd. Wedyn, roedden ni wedi darganfod hen loches cyrchoedd awyr o’r Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa a Chastell y Fenni.

Un o’r hen siediau tun

Trefil yn ysbrydoli artist

Mae Helen yn artist ac yn gwneud gwaith celf haniaethol. Bydd ei harddangosfa nesaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun y flwyddyn nesaf. Mae hi’n hoffi byd natur ac mae’n ysbrydoli ei gwaith celf. Daeth yn ôl gyda llawer o syniadau a dw i’n credu y bydd arddangosfa yn y dyfodol yn cynnwys golygfeydd o Drefil!

Ac mi fydda’i yn rhannu be dw i wedi dysgu am y GIG gyda phobl ac yn edrych ar sut i wella’r GIG rŵan. Efallai y bydd ysbryd Nye Bevan yn medru arwain fi!

Dach chi wedi bod ar wyliau yn rhywle diddorol? Beth am anfon ‘Cerdyn Post’ at Lingo360? Dych chi’n gallu anfon eich gwaith at bethanlloyd@golwg.cymru

Diolch yn fawr!