Mae John Rees yn arbenigwr ar hen bethau ac yn ysgrifennu colofn i Lingo Newydd. Mae e hefyd yn rhedeg cwmni vintage Cow & Ghost, sy’n rhedeg ffeiriau vintage a siop, sy’n rhan o Bazaar Vintage & Antique Warehouse yn Narberth, Sir Benfro. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd i raglen Prynhawn Da ar S4C i siarad am hen bethau. Mae John newydd fod ar wyliau i Ynys Burgh yn Nyfnaint i ddathlu pen-blwydd arbennig…
Mae’r gwanwyn wedi hedfan. Roedd yn gyfnod prysur yn y siop ac rydyn ni hefyd wedi cynnal chwe ffair vintage hyd yn hyn eleni. Ynghanol hyn i gyd roedd carreg filltir o ben-blwydd – 50. Dw i ddim yn gwbl sicr ble mae’r blynyddoedd wedi mynd.
Yn y siop, yn y glaw, oeddwn i ar y dydd mawr – yn eistedd yn edrych ar y glaw yn rhedeg lawr y ffenest a chlywed y gwynt yn ymladd efo’r to. A dyna pryd ges i’r syniad bod angen dathlu mewn ychydig mwy o steil!
Mae gen i gyfnither sy’n dweud yn aml fy mod i’n byw bywyd vintage. Rhwng y siop, y ffeiriau, a’r tŷ yn orlawn o hen bethau, mae hi’n gwneud pwynt da. Beth allwn i wneud i ffitio mewn gyda hyn? Daeth y syniad fel fflach o olau. Ynys Burgh yn Nyfnaint.
Dim ond tafarn, The Pilchard Inn, o’r 1300au a gwesty moethus o’r 1930au sydd ar yr ynys. Mae’r gwesty o’r oes Art Deco, a heb newid llawer ers cael ei adeiladu. Mae’n llawn celfi a chelf o’r cyfnod. Beth all fod yn fwy vintage na hynny? Wnes i alwad ffôn ac, o fewn dyddiau, bant â ni.
Mynd nôl mewn amser
Roedd y profiad fel mynd nôl mewn amser. Mae fel bod mewn ffilm neu ddrama deledu. A steil – mae digonedd o steil yn y gwesty.
Neuadd ddawns efo band, swît o ystafell, coctels yn y bar, y Palm Court, gyda’i nenfwd gromen, te prynhawn ar y teras, a golygfeydd godidog o’r môr o bob ffenest.
Mae’n amhosib peidio cael eich atgoffa o bwy a beth mae’r gwesty wedi gweld. Roedd yr actor Noel Coward yn hoff o aros yno, a’r awdures Agatha Christie yn westai rheolaidd.
Mae dwy o’i nofelau hi wedi’u seilio ar y lle. Un ohonyn nhw And Then There Were None yw’r llyfr dirgelwch gorau yn y byd. Ac mae’n hawdd deall pam.
Mae’r gwesty yn adeilad atmosfferig iawn. Trwy lwc, roedd hi’n sych bob dydd pan oedden ni yno. Roedd hyd yn oed ychydig o haul! Dw i’n edrych mlaen at yr achlysur mawr nesaf er mwyn cael mynd nôl…