Mae Maxine Burton yn byw yn Llanrhos ger Llandudno yng ngogledd Cymru. Mae hi’n aelod o grŵp ysgrifennu creadigol. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu cerddi a straeon byrion. Hyd yn hyn, mae ei gwaith wedi bod yn Saesneg. Mae ei stori ddiweddaraf am hen forwr o Landudno. Cymraeg oedd iaith gyntaf Bill. Mae hi eisiau rhannu ei hanes gyda siaradwyr Cymraeg ymhobman….
Stori’r Hen Forwr Bill
“Dw i’n cofio’n glir pan ro’n i tua dwy oed a daeth Ewythr Bill i’r tŷ,” meddai John, yn eistedd ar y soffa gyda’i nai Jac. “Ro’n i’n gwybod bod diwrnod cyffrous yn dod.”
Gwasgodd Jac yn nes at ei Hen Ewythr John ar y soffa. Roedd Jac wrth ei fodd yn clywed am anturiaethau John.
Darllenodd ei dad straeon amser gwely iddo ond roedd straeon ei Hen Ewythr yn llawer gwell. Er ei fod wedi clywed rhai o’r straeon o’r blaen roedd bob amser rhywbeth newydd a diddorol.
Hen Ewythr John oedd ewythr ei dad, a Jac oedd ei gor-nai. Roedd John yn olygus gyda llygaid gwyrdd, cyfeillgar a thrwyn hir a etifeddodd oddi wrth ei fam-gu.
Roedd Jac, sy’n bum mlwydd oed, yn fersiwn lai o’i dad – gwallt cyrliog golau a llygaid glas llachar.
Roedd Jac bob amser yn hapus iawn pan ddaeth John am ginio. Daeth nid yn unig gydag anrhegion ond hefyd gyda storïau.
Ar ôl cinio, pan oedd Mam a Dad yn brysur, eisteddodd Jac ar y soffa wrth ei ymyl. Roedd Jac wrth ei fodd yn gwrando ar ei straeon am ei fywyd ar y Gogarth yn Llandudno. Mae’r enw ‘Orme‘ yn dod gan y Llychlynwyr. Mae’r Gogarth yn bentir calchfaen sy’n filiynau o flynyddoedd oed yng ngogledd Cymru.
Mae yna hen dramffordd sy’n mynd i gopa’r Gogarth. Cafodd John ei eni ger traciau’r tram wrth ymyl yr orsaf hanner ffordd. Dywedodd John straeon am chwarae jôcs ar y twristiaid ar y tram. Yn yr haf, cuddiodd yn y glaswellt hir ac fel yr oedd y tram yn mynd heibio yn araf, neidiodd o’i guddfan a chwistrellu dŵr atyn nhw. Lot o hwyl i John a’i ffrindiau ond nid cymaint o hwyl i’r twristiaid!
John a Bill
Ond y dyddiau a dreuliodd John gyda Bill oedd y rhai gorau. Roedd John wrth ei fodd yn adrodd straeon am Bill. Roedd y straeon yn gyffrous iawn ac roedd Jac bob amser yn edrych ymlaen atyn nhw. Digwyddodd y straeon amser maith yn ôl. Roedd popeth yn wir.
Yn ystafell fyw’r bwthyn ar y Gogarth roedd yna lun lliwgar o Syr Walter Raleigh fel bachgen ifanc. Llun enwog, a llun dramatig iawn. Mae Raleigh yn eistedd ar ochr y cei. Mae morwr yn pwyntio i’r môr. Mae’r morwr yn adrodd chwedlau am y môr. Storïau am frwydrau ac anturiaethau.
Yn nychymyg John, Bill oedd y morwr a John oedd y bachgen ifanc wrth y cei.
Yn union fel y morwr yn dweud storïau wrth y bachgen ifanc yn y llun enwog ar y wal, roedd Bill yn dweud storïau wrth John o flaen y tân cynnes yn ystafell fyw’r bwthyn.
Roedd Bill yn gryf. Roedd gan Bill farf du mawr. Roedd ei lygaid llwyd yn pefrio â hiwmor. Roedd bob amser yn gwisgo cap lledr du. Treuliodd Bill lawer o flynyddoedd ar y môr. Hwyliodd i bedwar ban byd. Roedd bywyd yn galed ar y môr. Ond ddim mor galed ag oedd ar ei long gyntaf…
Llawn digwyddiadau cyffrous a drama oedd bywyd cynnar Bill.
“Bachgen drwg oedd o,” eglurodd John.
“Sut oedd Bill yn ddrwg? Beth wnaeth Bill?” gofynnodd Jac.
“Llawer o bethau drwg,” meddai John.
Pan oedd Bill yn fachgen ifanc aeth i bob math o drafferthion. Cafodd ei ddal yn dwyn melysion o siopau yn Llandudno. Pan oedd yn 14 oed cafodd ei anfon oddi cartref. Aeth ar long ar gyfer bechgyn drwg. Clio oedd enw’r llong. Cafodd Bill datŵ gyda’r llythrennau CLIO ar ei fysedd.
Cafodd cannoedd o fechgyn eu hyfforddi am oes ar y Clio yn y Llynges Frenhinol. Cafodd y Clio ei hangori ar y Fenai yn Ynys Môn o 1877 hyd at 1920. Roedd yn fath o sefydliad i fechgyn ifanc gyda hanes o fân droseddau. Roedd bywyd ar fwrdd y llong yn galed iawn gydag amodau byw gwael. Roedd bwlio yn gyffredin. Roedden nhw’n cysgu mewn hamogau yn lle gwelyau ac roedd y bwyd yn anodd. Roedd oerfel eithafol yn y gaeaf.
Bu farw mwy na 30 o fechgyn ar y llong. Mae eu beddau ar Ynys Môn. Testament i greulondeb.
Roedd Bill yn un o’r rhai lwcus i oroesi.
Dechreuodd diwrnod ar y Clio am bump o’r gloch y bore gyda darlleniad o’r Beibl. Roedd y bechgyn yn gorfod sgrwbio’r deciau cyn brecwast. Blawd ceirch a llefrith oedd i frecwast.
“Dw i licio llefrith ceirch ar fy ngrawnfwyd hefyd,” meddai Jac.
“A, ond roedd gan Ewythr Bill flawd ceirch nid llefrith ceirch. Nid yw blawd ceirch yn flasus iawn,” esboniodd John.
Ar ôl brecwast, roedd mwy o ddarllen o’r Beibl, rhifyddeg, sillafu, hanes, daearyddiaeth, arlunio ac addysg grefyddol.
“Dwi’n dysgu rhai o’r pethau hynny yn yr ysgol hefyd,” meddai Jac.
Ar ôl cinio o gig a thatws, roedden nhw’n dysgu am forwriaeth.
“Beth yw morwriaeth?” gofynnodd Jac.
“Hyfforddiant arbenigol i ddysgu sut i fod yn forwr da. Popeth am fywyd ar fwrdd y llong a sut i nofio,” meddai John.
“Oedd y bechgyn yn cael eu taflu i’r môr?” gofynnodd Jac, yn edrych yn syfrdan.
“Suddo neu nofio! Roedd bywyd yn greulon yn y dyddiau hynny. Ond, na. Roedd pwll nofio ar fwrdd y llong. Dŵr oer, wrth gwrs.”
“Pam oeddet ti’n hoffi mynd allan efo Ewythr Bill? Oeddat ti’n licio ei storïau? Neu’r pethau wnaethoch chi gyda’ch gilydd,” gofynnodd Jac.
“Tipyn bach o’r ddau, dwi’n meddwl,” meddai John.
“Aethon ni i chwilio am grancod yn y pyllau llanw o gwmpas y Gogarth. Pan mae’r llanw yn isel mae llawer o grancod yn cuddio o dan y creigiau. Ein hoff le oedd Crab Rock ger y Pier. Llawer o grancod bob amser. Hela da!
“Lle arall i ddal crancod oedd craig fawr o dan y clogwyni. Roedd dringo i lawr y graig yn anodd ac yn llithrig iawn. Cariodd Ewythr Bill fi i lawr ar ei gefn. Clymodd fi ar ei gefn gyda rhaff fawr.”
“Oedd gen ti ofn?” gofynnodd Jac.
“Na, i ddweud y gwir ro’n i’n rhy gyffrous. Ro’n i’n teimlo’n ddiogel gydag Ewythr Bill ac yn hyderus. Hefyd, ro’n i’n fachgen bach anturus. Ro’n i bob amser eisiau gwneud pethau anturus, yn wahanol i fechgyn eraill. Ro’n i bob amser yn gofyn cwestiynau.”
“Sut wnaethoch chi ddal y crancod?”
“Defnyddion ni fachyn haearn hir i dynnu’r crancod o dan y creigiau. Roedden ni’n arfer rhoi’r crancod mewn bwced, i’w gwerthu i fwytai lleol. Roedd cranc ffres ar y fwydlen yn boblogaidd iawn.
“Ar ôl ymddeol o’r môr roedd Bill yn gweithio ar y cychod pysgota yn y gaeaf ac fel töwr yn yr haf. Roedd yn mwynhau ei gwrw. Roedd yn hoffi ymlacio mewn tafarn wrth droed y Gogarth o’r enw King’s Head. Ro’n i’n hoffi mynd i’r dafarn gydag Ewythr Bill.”
“Ond Ewythr John, dim ond pump oeddet ti!”
“Es i erioed i mewn,” chwarddodd John.
“Pan ro’n i’n ifanc roedd gwaharddiad ar blant mewn tafarndai. Ro’n i’n arfer eistedd y tu allan gyda photel o lemonêd a bag o greision. Roedd Bill y tu mewn yn yfed cwpl o beints. Yn y dyddiau hynny roedd bag bach glas gyda halen yn y paced o greision. Yn wahanol i heddiw, roedd pobl yn rhoi’r halen ar y creision eu hunain.”
“Pa bethau eraill wnaethoch chi gyda’ch gilydd?,” gofynnodd Jac.
“Llawer o bethau diddorol. Roedden ni’n chwilio am fadarch. Roedden ni’n mynd ar ôl cwningod. Weithiau, roedden ni’n chwilio am ferwr y dŵr.”
“Beth yw berwr y dŵr?”
“Amser maith yn ôl roedd berwr y dŵr yn tyfu’n wyllt yn y ffynhonnau ar y Gogarth. Roedd Ewythr Bill yn gwybod bob amser ble i edrych. Wyt ti’n licio brechdanau ŵy a berwr?”
“Ydw,” meddai Jac.
“Mae berwr y dŵr yn debyg iawn i’r berwr yn ein brechdanau ond gyda deilen fwy. Mae berwr y dŵr yn blasu fel pupur hefyd.
“Peth diddorol arall am Bill. Roedd ei wraig wedi hyfforddi fel cogydd. Modryb Kitty. Roedd hi’n defnyddio ein cynnyrch gwyllt yn ei choginio. Roedd hi’n arbenigwraig.”
“Beth yw arbenigwraig?”
“Rhywun sy’n gwneud pethau’n dda iawn.”
“Pa fath o bethau?”
“Dy hoff bethau i’w bwyta.”
“Fel melysion, da da a chacennau?”
“Gwir, bachgen clyfar. Ro’n i licio melysion Modryb Kitty yn fawr.
“Roedd Kitty yn gwerthu llawer o felysion a thaffi triog i’r ymwelwyr i Landudno yn yr haf. Gyda chymorth ei chwaer, Edith, roedd Kitty yn rhedeg y busnes o ystafell ffrynt eu tŷ teras ar y Gogarth. Roedd y melysion yn boblogaidd iawn.
“Ro’n i yn helpu yn y busnes hefyd. Ro’n i’n defnyddio morthwyl arbennig i dorri’r taffi triog yn ddarnau. Yna ro’n i’n lapio’r darnau bach o daffi triog mewn papur i’w gwerthu i ymwelwyr.”
“Dw i’n licio taffi triog,” meddai Jac.
“Da iawn, achos mae gen i dipyn bach o daffi triog i ti yma.”
Pan aeth Jac i’r gwely’r noson honno roedd yn meddwl: “Yn bendant, mae rhywbeth arbennig am Ewythrod.”