Mae Mark Piers yn byw ger Manceinion. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ers y cyfnod Covid. Mae Mark wedi ysgrifennu stori Nadoligaidd i Lingo360…

Mae pawb yn gwybod bod Santa Claus yn byw yn Y Lapdir gyda Mrs Claus, eu coblynnod a’u ceirw. Ond does dim llawer o bobl yn gwybod mai Siôn Corn ydy cefnder Cymreig Santa Claus.

Dydy Siôn Corn ddim yn byw yn Y Lapdir o gwbl ond mewn lleoliad cyfrinachol rhywle yng Nghymru. Does neb yn gwybod ble.

Mae rhai yn dweud bod tŷ Siôn Corn yn Eryri, mae eraill yn dweud ei fod o’n byw ym Mannau Brycheiniog.

Yn wahanol i’r Santa Claus Llychlynnaidd, dydy Siôn Corn ddim yn defnyddio ceirw i hedfan i ddosbarthu ei anrhegion. Nac ydy.

Yn lle ceirw, mae Siôn Corn yn defnyddio rhwydwaith o dwneli ledled Cymru. Mae Siôn Corn yn hanu o hen deulu oedd yn berchen glofeydd. Ar un adeg, amser maith yn ôl, roedd y teulu Corn yn rheoli bron bob pwll glo yng Nghymru.

Dyna pam mae o’n nabod, ac yn gallu defnyddio’r twneli mor dda gyda’i drên stêm yn cael ei bweru gan lo.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gorfod gofyn i Siôn Corn i gloddio twnnel cyn i dai newydd gael eu codi.

Dyfeisiodd Siôn Corn y syniad o roi darn o lo i blant drwg. Yn wir, mae Siôn Corn yn dal i werthu sawl tunnell o lo i’w gefnder gogleddol bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae ei bwll glo anghyfreithlon ger Merthyr Tudful yn ddadleuol. Pam? Achos dydy Siôn Corn ddim wastad yn gwneud cais am y trwyddedau cywir sydd eu hangen y dyddiau hyn!