Mae hi’n nos yn y pentref. Mae’r rhew yn dechrau meirioli mewn niwl sy’n anwesu’r tir yn dynn. Mae hi ymhell heibio hanner nos ac mae pawb yn cysgu.

Mae ambell i olau’n dal i ddod o’r ffenestri. Rhywun wedi anghofio diffodd y golau lawr grisiau. Plentyn sydd â golau bach yn ymyl y gwely i’w hudo i gysgu. Weithiau gwelir fflachiadau rhyw addurn yn disgleirio drwy’r tywyllwch.

Yn araf deg mae’r niwl yn codi ac yn diflannu mewn cymylau trymion sy’n llenwi’r awyr dywyll.

Yn betrus, mae un bluen eira yn chwyrlïo i lawr tuag at y ddaear, ac yn diflannu i mewn i’r stryd dywyll. Daw mwy o blu, rhyw ychydig ar y dechrau, ond yn fuan maen nhw’n ymuno â’i gilydd gan greu gorchudd claerwen dros y stryd a’r anheddau segur.

Does neb yn sylwi. Mae pawb yn cysgu’n llonydd.

Un wrth un, mae goleuadau’r stryd yn diffodd. Daw pluen eira newydd i ymuno â’r carped gwyn ar lawr y pentref. Pluen lwyd. Ymhen pum munud, llwyd yw lliw yr eira. Â’r plu yn dywyllach, ac yn dywyllach. Mae’r eira yn ddu erbyn hyn, ac nid yw’n bosib gweld gwahaniaeth rhwng stryd, palmant a’r gerddi o flaen y tai.

Pe baech yn craffu’n galed, efallai byddech chi’n gweld ffigwr ar waelod yr allt. Ffigwr du, sydd hyd yn oed yn dywyllach na’r eira. Ffigwr siâp dynol, wedi’i orchuddo mewn rhywbeth llaes sy’n cychwyn o’i gorun ac yn cyrraedd y llawr.

Mae’r ffigwr yn dechrau cerdded tuag y pentref. Mae’r eira yn ddigon uchel i orchuddio’r pwynt lle byddai ei ffêr. Mae o’n llusgo ei hun i fyny i’r pentref, gydag anobaith yn ei ôl.

Yn raddol, mae’n creu llwybr drwy’r eira du. Wrth fynd heibio’r tŷ cyntaf, mae’r babi yn dechrau cwynfan yn ei gwsg, ond does neb yn deffro.

Yn ymyl y tŷ nesaf, mae’r ci yn dechrau udo’n dawel mewn breuddwyd iasol, ond dyw e ddim yn deffro.

Ac felly y mae wrth i’r creadur adael ei gysgod ar y preswylwyr diymwybod. Mae merch ifanc yn teimlo’n oer ac yn tynnu carthen dros ei hysgwyddau yn ei chwsg. Mae dyn yn rhoi ei fraich yn amddiffynnol dros ei bartner. Mae sawl un yn troi a throsi, ond does neb yn deffro.

Mae’r ffigwr yn oedi wrth yr eglwys, a daw cwmwl tywyll o’r fynwent yn gwmni iddo ar ei bererindod.

Ymlaen â fe, drwy’r pentref, a naws annifyr, anesboniadwy, yn ei ddilyn.

Does dim arafu yn ei symud wrth gyrraedd cyrion y pentref. Ymlaen â fe i ddiflannu yn y pellter tywyll.

Wrth iddo adael, mae’r eira yn dechrau newid. Mae’r plu yn goleuo yn llwyd tywyll, yn llwyd golau ac o’r diwedd yn wyn eto. Ymhen dim o amser, mae’r pentref yn wyn unwaith eto. Mae goleuadau’r stryd yn dechrau taenu eu pelydrau dros y garthen glaerwen.

Mae’r pentref yn deffro i olau hudolus ffilter yr eira. Does dim posib mynd i’r ysgol nac i’r gwaith. Mae’n ddiwrnod i ddathlu’r eira.

Mae’r plant yn rhwymo eu hunain mewn dillad cynnes ac yn tynnu eu slediau i fyny’r allt yn y gobaith o fedru gwibio i lawr yn gynt nag erioed o’r blaen. Mae’r oedolion yn gwisgo eu hesgidiau trymion ac yn cerdded i siop y pentref i brynu potelaid o rywbeth i’w cadw’n gynnes, gan fod dim modd mynd i’r gwaith. Mae pawb yn hapus yn yr eira.

Does neb yn cofio. Does neb yn gwybod am y tywyllwch o dan yr eira. Ond weithiau maen nhw’n teimlo’n oerach na’r disgwyl, ac yn methu â chynhesu.