Dach chi’n hoffi chwarae gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Mae’r dasg yma ar gyfer lefel Uwch. Wythnos nesaf, fe fydd tasg newydd ar gyfer lefel Mynediad. Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Mwynhewch! 

Ystrydebau:

Mae pobl yn defnyddio’r un disgrifiadau pan maen nhw’n ysgrifennu.  Dyma rai ohonyn nhw:

Roedd hi’n crynu fel deilen.

Neidiodd o allan o’i groen.

Aeth hi’n goch fel betysen.

Roedd hi’n ddu fel bol buwch.

Roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn.

Dach chi’n gallu meddwl am ffordd newydd i wneud y disgrifiadau hyn?

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.