Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Dyma’r dasg ar gyfer lefel Sylfaen. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

SYLFAEN

Mae’r arch-ddihiryn Y Treiglydd yn creu hafoc yn yr ardal. Mae’r heddlu eisiau ysgrifennu poster sy’n ei ddisgrifio. Dach chi’n gallu helpu?

Ysgrifennwch geiriau i’r poster.

Cwpwl o syniadau: Ble mae e’n gwneud pethau drwg? Beth mae e’n wneud?

Sut mae e’n edrych? Beth mae e’n gwisgo? Ydy e’n dal? yn fyr?

Yn eisiau

 

Dych chi’n gallu gwneud stori i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.