Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Dyma’r ail dasg ar gyfer lefel Sylfaen. Dyma oedd y dasg gyntaf. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Roedd hi’n noson dywyll…
Ysgrifennwch ddechrau stori arswyd. Sut mae’n dechrau? Beth dych chi’n ei glywed? gweld? teimlo? arogli?
Dych chi’n gallu gwneud stori i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.