Dach chi’n hoffi chwarae gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Mae’r dasg yma ar gyfer lefel Sylfaen. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd. Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Mwynhewch!
Cerdd
Ysgrifennwch gerdd gyda phob llinell yn dechrau gyda rwyt ti’n …. (ddim yn odli)
Rwyt ti’n + diod
Rwyt ti’n + tywydd
Rwyt ti’n + amser y dydd
Rwyt ti’n + lliw
Rwyt ti’n + cerddoriaeth
Rwyt ti’n + blodyn.
Mae’n gallu bod yn garedig, yn gas neu yn ddoniol, er enghraifft:
Rwyt ti’n siampên drud
Rwyt ti’n heulwen braf…
Rwyt ti’n de oer
Rwyt ti’n ddiwrnod gwlyb….
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.