Oeddech chi wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan wythnos ddiwethaf? Roedd Pegi Talfryn wedi gwneud y dasg yma ar gyfer wythnos yr Eisteddfod. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion. Os dach chi’n hoffi chwarae gyda geiriau, beth am wneud y dasg yma? Dyma’r dasg ar gyfer lefel Mynediad. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Llongyfarchiadau! Dach chi wedi ennill Cadair yr Eisteddfod. Mae S4C yn mynd i ofyn cwestiynau i chi. Dyma nhw, i chi gael paratoi:

Pwy dach chi?

Lle dach chi’n byw?

Ers pryd dach chi’n ysgrifennu?

Pwy – neu beth – ydy eich ysbrydoliaeth?

Ydy hyn yn sioc i chi?

Dach chi’n mwynhau’r Eisteddfod?

Beth ydy’r peth gorau am yr Eisteddfod?

Be dach chi ddim yn mwynhau am yr Eisteddfod?

Lle dach chi’n mynd i gadw’r gadair?

Sut dach chi’n mynd i ddathlu heno?

 

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.