Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Dyma’r ail dasg ar gyfer lefel Mynediad. Dyma oedd y dasg gyntaf. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.
Mwynhewch!
Cerdd ‘Helo’ ‘Hwyl fawr’
Yn Gymraeg mae treiglad meddal ar ôl cyfarchiad, felly mae’r athrawon yn dweud ‘bore da blant’ ac roedd rhaglen radio o’r enw ‘Helo bobol’. Mewn Cerdd Helo/Hwyl fawr dyn ni’n rhoi un gair ar ôl y geiriau. Efallai bod e’n treiglo, efallai dydy e ddim yn treiglo. Er enghraifft:
Helo gacen
Hwyl fawr ddiet
Helo Gymraeg
Hwyl fawr Saesneg
Dych chi’n gallu gwneud un i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.