Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Dyma’r dasg ar gyfer lefel Canolradd. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

 

Canolradd

Sut mae dy draed di yn teimlo ar ôl cerdded i ben y mynydd yn y gwres? Ydyn nhw wedi blino? Ydyn nhw’n boeth? Beth am ysgrifennu suo-gân i dy draed, er enghraifft:

Amser gorffwys, draed blinedig

Roedd heddiw yn ddiwrnod caled.

Dach chi’n teimlo’n boeth ‘rôl yr holl gerdded.

Fory cawn ymlacio a cherdded ar garped!

Dych chi’n gallu ysgrifennu suo-gân i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.