Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Dyma’r ail dasg ar gyfer lefel Canolradd. Dyma oedd y dasg gyntaf. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.
Mwynhewch!
Stori/Cerdd pum gair
Nod y gerdd hon ydy dweud stori mewn pum gair, gan ddefnyddio’r patrwm yma:
1 gair
2 air
3 gair
2 air
1 gair
Mae’n gweithio’n arbennig o dda gyda’r gorffennol cryno. Cofiwch dreigladau ar ôl y ferf:
Gwelodd
hi ddyn
yn y caffi.
Cariad. Priodi.
Ysgariad.
Dach chi’n gallu dweud stori mewn pum gair yn dilyn y patrwm hwn? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.