Dach chi’n hoffi chwarae gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Mae’r dasg yma ar gyfer lefel Canolradd. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch. Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Mwynhewch! 

Disgrifiad Tinder

Dach chi’n ysgrifennu disgrifiad ohonoch chi’ch hun ar gyfer Tinder. Be dach chi’n mynd i’w sgrifennu? Dyma fy nisgrifiad ohono i:

Wyt ti’n chwilio am hwyl?  Dw i’n berson sy’n mwynhau mynd am dro ac yfed gwin.  Dw i wrth fy modd yn bwyta bwyd newydd, ond llysieuwraig dw i.  Dw i’n eitha’ tal ac mae gen i wallt glas. 

Dw i ddim yn hen iawn, a dw i’n barod i ddod i dy nabod di.

Gyda llaw, paid â dweud wrth fy ngŵr fy mod i ar ‘Tinder’!

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.