Dach chi’n hoffi chwarae gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Mae’r dasg yma ar gyfer lefel Mynediad. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen. Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Mwynhewch!

Gorffen y gerdd:

Dw i’n hoffi yfed coffi

Dw i’n hoffi dysgu’r iaith

Dw i’n hoffi cael penwythnos hir

…………………………………………….

Gorffen y frawddeg.  Geiriau sy’n gorffen gyda ‘-aith’:

gwaithffaithsaithtaith

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.