Mae Fern Hudson wedi bod i Jamaica i weld ei theulu. Roedd ei thad yn dod o Jamaica yn wreiddiol. Mae Fern wedi ysgrifennu cerdyn post at Lingo360. Yma mae hi’n dweud ychydig amdani hi ei hun a’i thaith i Jamaica…

Fern Hudson, ar y chwith, gyda’i modryb a chefndryd
Jamaica

Fern dw i.

Dw i’n dŵad o’r Rhyl yn wreiddiol.

Ond mae dad yn dŵad o Jamaica yn wreiddiol.

Dw i’n byw yng Nghaer rŵan.

Dw i’n gweithio fel therapydd yn San Helen.

Dw i’n dysgu Cymraeg ar-lein ers 2020.

Prynhawn Llun, mi es i i Gatwick ar y trên ac aros mewn Travelodge. Mi wnes i hedfan i Jamaica prynhawn Mawrth. Dyma fi, rŵan, yn Kingston efo fy ewyrth a modryb i!

Madfall

Mae hi’n grasboeth – 34°C bob dydd! Dw i ’di gweld rhywfaint o natur ddiddorol: adar bach y si (aderyn cenedlaethol Jamaica), pelicanod, pysgod lliwgar, a llawer o fadfallod! Ond hefyd, llawer of mosgitos a cocrotsis – ych a fi!

Dw i wedi cyfarfod teulu newydd a chael bws i ochr arall yr ynys i weld mwy o fy nheulu.

Penwythnos nesaf, bydda i’n hedfan i’r Bahamas i weld hyd yn oed mwy o deulu a mynd i’r traeth! Dydw i erioed wedi bod yno o’r blaen.

 

Y traeth

Dw i’n mwynhau’r ffrwythau a’r llysiau sy’n tyfu yn y cartref – ond mae’n dymor corwynt.

Dych chi wedi bod ar daith i rywle diddorol? Beth am ysgrifennu cerdyn post at Lingo360? Anfonwch e-bost at lingonewydd@golwg.cymru