Mae Jay Ramsurrun wedi bod i India am y tro cyntaf eleni. Roedd e eisiau gweld gwlad ei hynafiaid. Mae Jay yn byw yn Rhydaman ond yn dod o Mauritius yn wreiddiol. Mae e wedi ysgrifennu cerdyn post at Lingo360. Mae e’n dweud ychydig am ei hun a’i daith i India…
Es i i India am y tro cyntaf eleni. Dw i wedi byw yng Nghymru ers 1976. Ond dwi’n dod o Mauritius yn wreiddiol. Yn y 19eg ganrif, daeth y Prydeinwyr â phobl o India i Mauritius i weithio ar blanhigfeydd cansen siwgr. Fel Indiaid o’r bedwaredd genhedlaeth o Mauritius, yn byw yng Nghymru, roedd rhaid i mi ymweld â gwlad fy hynafiaid. Teithiais gyda fy merch a fy mrawd iau.
Pan ddaethon ni oddi ar yr awyren yn Delhi, roedd yn teimlo fel ein bod ni mewn popty. Roedd hi mor boeth roedden ni’n chwysu yn gwneud dim byd. O Delhi, aethon ni i Agra, Lucknow, Ayodhya a Varanasi yn y car. O Varanasi, fe wnaethon ni hedfan i Chandigarh. Oddi yno aethon ni i Shimla, Rishikesh a Haridwar yn y car. Hedfan wedyn i Jaipur ac yna aethon ni i Mathura ac yn ôl i Delhi.
Gwlad o wrthgyferbyniadau
Gwnaethon ni ormod o bethau i’w hysgrifennu mewn cerdyn post! Mae India yn wlad o wrthgyferbyniadau. Mae yna bobl gyfoethog iawn ac mae yna bobl dlawd iawn ym mhobman.
Mae rhai pobl mor dlawd nes eu bod yn cysgu dan goed, ar balmentydd, mewn caeau, ar lannau afonydd. Roedd yn dorcalonnus gweld plant ifanc yn cardota ar y strydoedd.
Rhai o’r pethau rydych chi’n eu gweld ym mhobman: cŵn, buchod, mwncïod, cardotwyr, temlau, tuktuk a gyrru gwallgof.
Rydyn ni’n caru anifeiliaid, felly wnaethon ni ffrindiau gyda chŵn, buchod a mwncïod. Wnaethon ni lawer o bethau diddorol fel mynd i Aarti ar lan Yamuna a Ganges, nofio mewn rhaeadr, mynd i fan geni Rama a Krishna, y duwiau Hindŵaidd adnabyddus.
Rhwng gwneud pethau twristaidd, aethon ni hefyd i gwpl o ddosbarthiadau coginio a dysgu gwneud menyn paneer, chana masala, dal masala a dosa. Roedd fy ngwraig yn hapus pan ddes i nôl a gwneud ei bwyd Indiaidd!
Mae India yn wlad fawr. Bydda i’n bendant yn mynd yno eto yn y dyfodol. Ond mae mor drist bod llywodraeth gyfoethog India yn ariannu teithio i’r gofod ond wedi anghofio’r bobl dlawd ar y tir.
Dych chi wedi bod ar daith i rywle diddorol? Beth am ysgrifennu cerdyn post at Lingo360? Anfonwch e-bost at lingonewydd@golwg.cymru