Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Sgandal betio: Ymgeiswyr Ceidwadol i gyd yn cael eu “paentio efo’r un brwsh”
  • Meddygon yn derbyn cynnig tâl Llywodraeth Cymru i ddod a streiciau i ben
  • Gallai gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gau’n gynnar oherwydd streic
  • Mwy o staff Cyngor Blaenau Gwent yn siarad Cymraeg na’r un adeg y llynedd

 


Aled Thomas

Sgandal betio: Ymgeiswyr Ceidwadol i gyd yn cael eu “paentio efo’r un brwsh”

Mae’r honiadau am fetio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol yn parhau i achosi problemau i’r Ceidwadwyr.

Aled Thomas ydy ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli.

Mae’n dweud ei fod yn “grac” fod holl ymgeiswyr ei blaid yn cael eu “paentio efo’r un brwsh”.

Mae hyn ar ôl i’r Comisiwn Gamblo ddechrau ymchwiliad i honiadau bod nifer o bobl wedi rhoi bet ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol. Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Mae’r Comisiwn Gamblo yn ymchwilio i honiadau bod Craig Williams wedi gosod bet o £100 ar ddyddiad yr etholiad. Craig Williams ydy ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Maldwyn a Glyndŵr. Roedd hefyd wedi gweithio’n agos gyda Rishi Sunak. Dydy’r Ceidwadwyr ddim yn cefnogi Craig Williams fel ymgeisydd rŵan.

Russell George ydy’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros yr un etholaeth. Mae’n rhannu swyddfa gyda Craig Williams. Mae e hefyd yn rhan o ymchwiliad y Comisiwn Gamblo.

Mae sawl person sydd â chysylltiad â’r Blaid Geidwadol a chwe swyddog gyda’r Heddlu Metropolitan, bellach yn rhan o ymchwiliad y Comisiwn Gamblo.

Mae Aled Thomas yn dweud: “Y peth ydy, ym mhob plaid, mae pobol yn gwneud camgymeriadau.

“Ond beth sydd yn fy ngwneud i’n grac yw bod ymgeiswyr da dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu paentio efo’r un brwsh.”

Ond dyw Aled Thomas ddim yn credu bod y sgandal yn debygol o gael effaith fawr yn yr etholaeth.

“Dw i yn credu bod y Ceidwadwyr wedi gwneud gwaith da yn y Senedd, ac er bod hwn yn slogan i Lafur yn y Deyrnas Unedig, dw i wir yn meddwl bod pobol yn barod am newid yn y Senedd.”


Meddygon yn derbyn cynnig tâl Llywodraeth Cymru i ddod a streiciau i ben

Mae meddygon ac ymgynghorwyr iechyd wedi derbyn cynnig o fwy o arian gan Lywodraeth Cymru.

Roedd hyn ar ôl i feddygon iau fynd ar streic hir yng Nghymru ym mis Mawrth eleni.

Mae BMA Cymru yn dweud bod meddygon wedi pleidleisio o blaid cynnig tâl Llywodraeth Cymru.

Roedd meddygon iau, ymgynghorwyr iechyd a doctoriaid arbenigol (SAS), wedi bod yn galw am fwy o dâl.

Mae BMA Cymru yn dweud eu bod yn “falch” o’r cynnig ond bod “y frwydr dros adfer cyflog llawn ymhell o fod ar ben”.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething ei fod yn “falch iawn” bod meddygon wedi “derbyn ein cynnig cyflog ar gyfer 2023-24, gan ddod â’r streiciau i ben.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i feddygon ledled Cymru, a’n gweithlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud bob dydd.”


Y ffwrnais yn y nos
Y ffwrnais ym Mhort Talbot

Gallai gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gau’n gynnar oherwydd streic

Mae’n bosib y bydd gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cau’n gynnar oherwydd streic gan y gweithwyr.

Mae disgwyl i’r streic ddechrau ar 8 Gorffennaf.

Mae’n debyg bod tua 1,500 o weithwyr am fynd ar streic. Mae hyn ar ôl i gwmni Tata benderfynu cau’r ffwrneisi chwyth. Bydd tua 2,800 o bobl yn colli eu swyddi.

Rŵan mae’r gweithwyr wedi cael gwybod y gallai’r safle gau am y tro olaf erbyn 7 Gorffennaf oherwydd y streic gan Uno’r Undeb.

Roedd disgwyl i un o’r ffwrneisi chwyth gau erbyn diwedd y mis yma, a’r ail yn dod i ben erbyn mis Medi.

Ond oherwydd y streic, mae penaethiaid yn dweud bod dim sicrwydd y bydd digon o adnoddau ar y safle i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Mae’r undeb yn dweud fod penaethiaid Tata yn bygwth gweithwyr, ac na fydd hynny’n eu stopio nhw rhag mynd ar streic.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n cefnogi penderfyniad Tata i gau’r ffwrneisi.

Mae Uno’r Undeb yn dweud eu bod nhw’n “brwydro dros ddyfodol y diwydiant dur”. Mae’r GMB wedi galw ar Tata i “gymryd cam yn ôl” o’r penderfyniad i gau’r safle.

Mae’r Blaid Lafur hefyd yn galw ar Tata i ohirio’u penderfyniad tan ar ôl yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y newyddion yn “siomedig”. Mae Plaid Cymru eisiau dod â’r diwydiant dur o dan reolaeth Llywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig.


Mwy o staff Cyngor Blaenau Gwent yn siarad Cymraeg na’r un adeg y llynedd

Mae adroddiad newydd yn dangos bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar Gyngor Blaenau Gwent na’r un adeg y llynedd.

Mae gan 68 yn fwy o staff sgiliau siarad Cymraeg na’r un adeg yn 2023, meddai’r adroddiad.

Ac mae 11 yn fwy o staff yn siaradwyr rhugl nag yn 2022-23.

Mae holl gyrff llywodraeth a chyhoeddus Cymru yn gorfod cydymffurfio gyda’r Safonau Iaith Gymraeg gafodd eu cyflwyno yn 2011.

Mae’n rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Y bwriad ydy ei gwneud hi’n haws i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Mae gan Gyngor Blaenau Gwent staff o 2,971.

Mae’r adroddiad yn dweud bod 45 aelod o staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Mae gan 605 o’r staff sgiliau siarad Cymraeg.

“Mae hyn yn gynnydd o 68 aelod o staff o gymharu ag adroddiad 2022-23,” meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y Cyngor hefyd yn gobeithio gweithio’n agos gyda busnesau lleol i ddathlu Diwrnod Shwmae/Sumae ar Hydref 15; annog mwy o staff i wneud hyfforddiant iaith Gymraeg; a chreu mwy o gyfleoedd anffurfiol i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.