Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cwestiynau’r Prif Weinidog: “Pam ydych chi’n dal yma?”
  • Llinell Gymraeg HSBC: dim ond 17 cais mewn tri mis
  • 70% o bobol ifanc ddim yn gwybod enwau eu haelodau seneddol
  • Cyfle cyntaf i weld Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

 


Cwestiynau’r Prif Weinidog: “Pam ydych chi’n dal yma?”

“Pam ydych chi’n dal yma?”

Dyna’r cwestiwn gafodd Vaughan Gething yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth (Mehefin 11).

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd wedi gofyn y cwestiwn. Mae hyn ar ôl i’r Prif Weinidog golli pleidlais o ddiffyg hyder wythnos ddiwethaf.

Roedd e wedi colli’r bleidlais o 29 i 27. Y Ceidwadwyr Cymreig oedd wedi cyflwyno’r cynnig. Roedden nhw wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond mae Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo.

Mae hyn ar ôl wythnosau o feirniadaeth am wrthod ad-dalu £200,000 gan droseddwr amgylcheddol i’w ymgyrch arweinyddol, a diswyddo Hannah Blythyn, yr Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol. Roedd yn dilyn honiadau ei bod wedi rhyddhau negeseuon am Covid-19 i’r wasg.

Roedd Vaughan Gething yn wynebu ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog cyntaf ers y bleidlais. Darren Millar ydy’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd. Roedd e wedi gofyn i Vaughan Gething:  “Pam ydych chi’n dal yma?”

“Does gennych chi ddim hyder y Senedd hon. Dylech chi barchu pob pleidlais sydd wedi’i chymryd gan Aelodau o Senedd Cymru, nid dim ond y rhai rydych chi’n cytuno gyda nhw.”

Wnaeth Vaughan Gething ddim ateb y cwestiwn am y bleidlais.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Gofynnodd: “Oedd hi’n ddadl ddifrifol neu oedd hi’n gimic?”.

Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi cymryd y ddadl, a’r bleidlais, o ddifrif.

“Cafodd y bleidlais ei chynnal, a’r canlyniad yw’r canlyniad,” meddai, a dywedodd ei fod “am arwain fy ngwlad i’r dyfodol”.


Llinell Gymraeg HSBC: dim ond 17 cais mewn tri mis

Mae HSBC yn dweud mai dim ond 17 o bobl sydd wedi gofyn am eu llinell Gymraeg ers i’r banc newid y drefn o ateb galwadau.

Ers Ionawr 15, dim ond staff iaith Saesneg sydd yn ateb ymholiadau cwsmeriaid. Mae’n rhaid i gwsmeriaid sydd eisiau ymateb yn Gymraeg aros i rywun eu ffonio yn ôl.

Llŷr Gruffydd ydy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd. Mae’n dweud bod y llinell Gymraeg yn arfer cael 22 galwad bob dydd ar gyfartaledd.

Mae o eisiau i Safonau’r Iaith Gymraeg gynnwys y sector bancio.

Mae HSBC wedi cael ei feirniadu ers newid y drefn, ond maen nhw wedi gwrthod ail-ystyried.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Llŷr Gruffydd: “Mae’n amlwg nad yw’r system newydd yna’n gweithio. Mae’n amlwg nad yw’r sector bancio, ar y cyfan, yn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg nac yn darparu gwasanaethau sylfaenol yn ein hiaith ni ein hunain.”

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg, yn dweud “bydd angen diwygio pellach” er mwyn dod â banciau o dan Safonau’r Iaith Gymraeg.

Roedd gwleidyddion wedi cael gwybod am benderfyniad HSBC  i gael gwared â’r gwasanaeth Gymraeg mewn llythyr ar 8 Tachwedd, 2023.

Roedd Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi ysgrifennu at y banc yn eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg.

Ar y pryd, dywedodd Llŷr Gruffydd fod y penderfyniad yn “annerbyniol”. Roedd wedi galw ar i HSBC “fuddsoddi” yn y gwasanaeth am o leiaf 12 mis yn lle cael gwared ohono.


70% o bobol ifanc ddim yn gwybod enwau eu haelodau seneddol

Mae ymchwil newydd yn dangos bod 70% o bobol ifanc dan 18 oed ddim yn gwybod enw eu haelod seneddol.

Daw hyn ychydig wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Yn ôl yr arolwg gan Opinium, dydy 59% ddim yn gallu enwi’r blaid mae eu haelod seneddol yn perthyn iddi. Mae 39% yn dweud nad ydyn nhw’n deall gwaith gwleidyddion.

Er mwyn taclo hyn, bydd ymgyrch ‘Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais’ yn cael ei gynnal.

Mae tua 50,000 o bobol ifanc wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Bydd y prosiect addysg yn dysgu plant am wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.  Wedyn bydd etholiad i blant ddiwedd mis Mehefin.

Bydd canlyniadau’r etholiad yma’n cael eu cyhoeddi ar 28 Mehefin, wythnos cyn yr etholiad cyffredinol.

Mae Achub y Plant Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Platfform4YP, Urdd Gobaith Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn cefnogi’r ymgyrch.

Mae Qahira yn 16 oed ac yn Llysgennad iWill o Gaerdydd.

Mae hi’n dweud: “Mae’n bwysig bod y materion sy’n bwysig i ni yn cael eu clywed a’u trafod gan Aelodau Seneddol. Ar hyn o bryd, nid yw’n teimlo felly.”

Mae Chelsea, sy’n 17 oed, yn dod o Gastell-nedd ac mae hi’n Llysgennad Platfform4YP.

Mae hi’n teimlo nad yw lleisiau pobol ifanc yn cael eu clywed.

“Rwy’ am i wleidyddion ddeall y materion sydd yn bwysig i ni – fel iechyd meddwl a newid hinsawdd, a materion LHDTC+ a hiliaeth.”


Y Goron

Cyfle cyntaf i weld Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael eu dadorchuddio.

Elan Rhys Rowlands sydd wedi gwneud y Goron. Mae’r Gadair wedi cael ei gwneud gan Berian Daniel.

Cafodd y Goron a’r Gadair eu dangos i’r Pwyllgor Gwaith mewn seremoni arbennig yn y Guildhall yn Llantrisant nos Iau (13 Mehefin).

Mae’r Goron wedi cael ei noddi gan Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd. Maen nhw hefyd yn cyflwyno’r wobr o £750.

Mae’r Goron wedi’u hysbrydoli gan Hen Bont Pontypridd a phatrwm nodau’r anthem genedlaethol. Cafodd yr anthem ei chyfansoddi yn y dref.

Dywedodd Elan Rhys Rowlands fod y Goron wedi cael ei chreu gyda darnau bychain o arian pur wedi’u gosod fel tonnau.

Mae Elan wedi gweithio gyda 15 o ddisgyblion yn Ysgol Garth Olwg ar y prosiect. Roedden nhw wedi rhannu syniadau wrth ddylunio’r Goron.

Bydd y Goron yn cael ei chyflwyno eleni am gerdd ar y pwncAtgof’. Y beirniaid yw Tudur Dylan Jones, Elinor Gwynn a Guto Dafydd.

Y Gadair

Y Gadair

Mae’r Gadair wedi cael ei gwneud o dderw o goedwig hynafol. Mae’r gwaith haearn yn adlewyrchu diwydiant glo’r cymoedd sef ‘Aur y Rhondda’.

Mae’r goeden wedi’i thorri yn ei hanner ac, yn y canol, mae ‘afon’ o ddarnau glo mewn resin. Mae’n cael ei ddal yn ei le gan fariau haearn.

Mae Berian Daniel yn dweud bod y tair rhan yn cynrychioli afonydd Rhondda, Cynon a Thaf.

“Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â’r syniad o greu afon o lo a’r term ‘Aur y Rhondda’. Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth,” meddai.

“Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae ei ddylanwad yn parhau’n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon.”

Ysgol Llanhari sydd wedi noddi’r Gadair hefyd.

Cadwyn’ yw testun cystadleuaeth y Gadair eleni.

Aneirin Karadog, Dylan Foster Evans a Huw Meirion Edwards yw’r beirniaid.

Dywedodd Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, bod derbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod yn “bleser”.

“Rydyn ni’n awchu i chi gyrraedd a chael blas o’r croeso a’r rhaglen wych sy’n eich aros. Rydyn ni wedi aros yn hir am gyfle i gynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf – 68 mlynedd – ac mae hi ar fin cyrraedd.

“Felly, mae’r neges yn glir wrth i ni ddadorchuddio’r Gadair a’r Goron, dewch i Bontypridd, a dewch i grwydro ardal hyfryd Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n barod amdanoch chi!”

Bydd seremoni’r Coroni’n cael ei chynnal ddydd Llun, Awst 5, a’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 9.