Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Codiad cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus
  • Eluned Morgan yn cyhoeddi Cabinet newydd
  • Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gasnewydd am y tro cynta’ yn 2027
  • Cannoedd yn angladd Dewi ‘Pws’ Morris

Codiad cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus

Fe fydd gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cael codiad cyflog.

Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn dweud y  bydd cyflogau athrawon, staff y Gwasanaeth Iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn codi.

Bydd y codiad cyflog yn cynyddu rhwng 5% a 6% yn 2024-25. Mae’r cynnig yn uwch na chwyddiant.

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi codiadau cyflog i weithwyr yn Lloegr fis yn ôl.  Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru’n dilyn hynny.

Mae cyflogau wedi bod yn gostwng dros 14 o flynyddoedd mewn termau real. Mae cyflogau’r sector cyhoeddus wedi gostwng 3.6% ar gyfartaledd.

Roedd undebau wedi rhybuddio y gallai gweithwyr fynd ar streic os nad oedden nhw’n cael codiad cyflog.

Yng Nghymru, bydd athrawon a staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael codiad cyflog o 5.5%.

Bydd meddygon a deintyddion, gan gynnwys meddygon teulu, yn cael codiad cyflog o 6%. Bydd £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno ar godiad cyflog o 5% ar gyfartaledd i weision sifil ac i staff mewn nifer o gyrff cyhoeddus eraill. Maen nhw’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Mae Eluned Morgan yn dweud ei bod wedi gwrando ar bobl Cymru. Mae hi’n dweud bod pobl eisiau i nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd ac athrawon gael eu gwobrwyo am eu gwaith.

Ond mae Eluned Morgan hefyd yn dweud bod pobl eisiau gweld gwasanaethau cyhoeddus yn gwella – fel y Gwasanaeth Iechyd ac addysg. Mae hi’n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r gwasanaethau yma i drio gwneud hynny.


Eluned Morgan

Eluned Morgan yn cyhoeddi Cabinet newydd

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyhoeddi Cabinet newydd ei llywodraeth.

Mae Jeremy Miles AS yn dod yn ôl i’r cabinet fel yr Ysgrifennydd Iechyd newydd. Roedd Jeremy Miles wedi dod yn ail i Vaughan Gething yn y ras i arwain y Blaid Lafur. Roedd e wedi ymddiswyddo yn yr haf gyda thri gweinidog arall – Julie James, Lesley Griffiths a Mick Antoniw. Roedden nhw’n protestio yn erbyn arweinyddiaeth Vaughan Gething.

Mark Drakeford oedd yr Ysgrifennydd Iechyd dros dro. Mae e’n symud o’r swydd yna i fod yn Ysgrifennydd dros Gyllid a’r Gymraeg.

Roedd Eluned Morgan yn arfer bod yn Ysgrifennydd Iechyd cyn dod yn Brif Weinidog.

Mae iechyd yn un o swyddi mwyaf y llywodraeth. Mae llawer o gyllid yn cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Eluned Morgan yn dweud bod y newidiadau i’r Cabinet yn cynnigsefydlogrwydd” a bod y tîm yn cynrychioli pob rhan o Gymru.

Ond mae Plaid Cymru’n dweud fod Cymru’n haeddu gwell na llywodraeth Lafur “flinedig a rhanedig”.

Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud efallai fod yna brif weinidog newydd ym Mae Caerdydd ond mai’r “un hen Lafur” sydd mewn grym o hyd.


Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gasnewydd am y tro cynta’ yn 2027

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gasnewydd yn 2027 – a hynny am y tro cyntaf erioed.

Cafodd y penderfyniad i groesawu’r Eisteddfod ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau (Medi 12).

Mae’r Urdd a Chyngor Dinas Casnewydd yn trafod safleoedd posib ar gyfer y maes ar hyn o bryd.

Llio Maddocks ydy Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

Mae hi’n dweud: “Dw i mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027.”

Mae hi’n dweud mai un o’r pethau pwysicaf am Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu mynd i ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobol ifanc yr ardal.”

Mae Emma Stowell-Corten yn Aelod Cabinet ar Gyngor Casnewydd.

Mae hi’n dweud: “Mae’n gyffrous meddwl y byddwn ni’n dod ag un o ddigwyddiadau blynyddol Cymru, ac un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, i’n dinas am y tro cyntaf erioed.

Mae hi’n dweud eu bod nhw eisiau cynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobol â phosibl yn gallu mwynhau’r Eisteddfod.

Mae’r Cyngor hefyd eisiau cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y ddinas.

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop.

Castell-nedd Port Talbot fydd yn cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf ym Mharc Margam rhwng Mai 26-31, 2025.

Bydd yr Ŵyl yn Ynys Môn yn 2026, cyn mynd i Gasnewydd yn 2027.


Dewi ‘Pws’ Morris

Cannoedd yn angladd Dewi ‘Pws’ Morris

Roedd cannoedd o bobl wedi mynd i angladd Dewi ‘Pws’ Morris ddydd Iau (12 Medi).

Roedd y cerddor, actor ac awdur wedi marw ar 22 Awst yn 76 oed.

Roedd gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Amlosgfa Bangor. Roedd mwy na 600 o bobl wedi dod yno i’w gofio.

Roedd Dewi Pws yn aelod o’r band Y Tebot Piws ac wedyn yn gitarydd â chanwr gyda’r band Edward H. Dafis.

Yn y gwasanaeth, roedd y delynores Gwennan Gibbard wedi perfformio rhai o ganeuon Edward H. Dafis a Tebot Piws ar y delyn.

Roedd llawer o wynebau adnabyddus yn cymryd rhan yn y gwasanaeth, gan gynnwys Ryland Teifi, Cleif Harpwood, y grŵp Pedair a Linda Griffiths.

Mae’n cael ei gofio am berfformio ar lwyfannau ar draws Cymru ac am gyflwyno ac actio mewn nifer o raglenni teledu.

Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau ac yn Fardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.

Roedd yn byw yn Nefyn ond yn dod o ardal Treboeth yn Abertawe yn wreiddiol. Mae’n gadael ei wraig, Rhiannon.