Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cyhoeddi adroddiad i’r tân yn Nhŵr Grenfell
  • Cyhuddo dynes, 41, o lofruddio bachgen chwech oed
  • Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd
  • Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau BAFTA Cymru 2024

Tŵr Grenfell a fflamau a mwg yn codi ohono
Tŵr Grenfell yn 2017

Cyhoeddi adroddiad i’r tân yn Nhŵr Grenfell

Mae’r adroddiad i’r ymchwiliad i’r tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain wedi cael ei gyhoeddi’r wythnos hon.

Roedd 72 o bobl wedi marw yn y tân yn 2017 gan gynnwys 18 o blant. Roedd mwy na 200 o bobl yn byw yn y fflatiau.

Theresa May oedd y Prif Weinidog ar y pryd. Roedd hi wedi cyhoeddi y byddai ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiad. Roedd y fflatiau wedi cael eu gorchuddio gyda chladin sy’n gallu llosgi. Mae’r adroddiad terfynol yn dweud bod y tân wedi digwydd ar ôl “degawdau o fethiannau” gan lywodraethau a’r diwydiant adeiladu.

Cadeirydd yr ymchwiliad ydy Syr Martin Moore-Bick. Mae’n dweud bod y cwmnïau wnaeth gynhyrchu a gwerthu’r cladin hefyd ar fai. Nid oedd y llywodraeth wedi gwrando na gweithredu ar rybuddion am y cladin, meddai.

Yn 2016, flwyddyn cyn y digwyddiad, roedd Llywodraeth y DU yn gwybod am y peryglon o ddefnyddio paneli cladin llosgadwy mewn adeiladau uchel. Wnaethon nhw “fethu â gweithredu“, meddai’r adroddiad.

Mae Grenfell United yn cynrychioli teuluoedd rhai o’r bobl fu farw a’r goroeswyr. Maen nhw’n dweud “nad oes cyfiawnder“.

Maen nhw’n dweud bod angen i’r heddlu ac erlynwyr wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gyfrifol “yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn wynebu cyfiawnder.”

Mae Heddlu’r Met wedi dweud y byddan nhw’n mynd drwy’r adroddiad yn ofalus.

Mae Syr Martin Moore-Bick wedi gwneud 58 o argymhellion.

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn dweud y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr adroddiad yn ofalus “er mwyn sicrhau na fydd trychineb fel hyn yn digwydd byth eto.”


Alexander Zurawski

Cyhuddo dynes, 41, o lofruddio bachgen chwech oed

Mae dynes 41 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed yn Abertawe.

Roedd Alexander Zurawski wedi marw mewn tŷ yn ardal Gendros nos Iau (Awst 29).

Mae Karolina Zurawska wedi’i chyhuddo o lofruddio’r bachgen. Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwi, 67 oed, ar yr un diwrnod.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r achos. Roedd Karolina Zurawska wedi mynd o flaen Llys y Goron Abertawe ac mae hi wedi cael ei chadw yn y ddalfa.

Wnaeth hi ddim cyflwyno ple.

Bydd hi’n mynd o flaen llys eto ar Chwefror 17, 2025.


Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd

Fe fydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru’n gallu cael prydau ysgol am ddim o’r wythnos hon.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud yn 2021 y byddai pob plentyn ysgol gynradd yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Roedd hyn yn rhan o’u hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant.

Ers lansio’r rhaglen, mae bron i 30m o brydau bwyd wedi cael eu rhoi i blant ysgol. Mae’r rhaglen newydd yn golygu bod 176,000 yn fwy o blant yn gallu cael pryd ysgol am ddim.

Mae’r awdurdodau lleol yn cael eu hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle mae hynny’n bosibl.

Eluned Morgan ydy Prif Weinidog Cymru. Mae hi’n dweud: “Mae pryd ysgol iach yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo’n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol.

“Ac mae hynny’n eu helpu i ganolbwyntio, o fudd i’w lles, ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn.

“Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn cynnig cymorth sy’n cael ei groesawu’n fawr gan deuluoedd ac yn helpu i drechu tlodi plant.

“Mae hwn yn achlysur pwysig iawn i blant yma yng Nghymru.

“Dw i’n falch iawn mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.”


Men Up, sydd wedi’u henwebu ar gyfer y nifer fwyaf o wobrau

Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau BAFTA Cymru 2024

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024.

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd nos Sul, Hydref 20.

Mae’r gwobrau yn dathlu talent ar draws y byd ffilm a theledu yng Nghymru.

Mae 21 o gategorïau yn y Gwobrau eleni. Ymhlith y cynyrchiadau sydd wedi’u henwebu ar gyfer y nifer fwyaf o wobrau mae Men Up (chwech), Doctor Who (pump), Pren ar y Bryn (pump), Steeletown Murders (pump), a Wolf (pedair).

Mae Siân Phillips yn 90 a Chuck Chuck Baby wedi’u henwebu ar gyfer tair gwobr. Mae dau enwebiad i Rhod Gilbert: A Pain in the Neck a Strike! The Women Who Fought Back.

Mae’r categorïau perfformio’n cynnwys pedwar person sydd wedi’u henwebu am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf. Maen nhw’n cynnwys Aimee-Ffion Edwards (Dreamland), Alexandra Roach (Men Up), Ncuti Gatwa (Doctor Who) a Philip Glenister (Steeltown Murders).

Angharad Mair ydy cadeirydd BAFTA Cymru. Mae hi’n dweud: “Llongyfarchiadau i enwebeion BAFTA Cymru eleni.

“Mae enwebeion BAFTA Cymru yn rhestr o ffilmiau, sioeau teledu a pherfformiadau y mae’n rhaid eu gwylio ac yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin talent greadigol yng Nghymru.”

Rebecca Hardy ydy pennaeth BAFTA Cymru. Mae hi’n dweud: “Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y creadigrwydd a’r sgil eithriadol gafodd ei ddangos ar draws pob un o’r 21 categori yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni.

“Mae’r enwebeion yn dyst i’r gwaith caled a’r ymrwymiad i’w crefft a chryfder y celfyddydau sgrîn yng Nghymru.”