Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
  • Rishi Sunak yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr
  • Llafur yn ennill mwy o seddi yng Nghymru
  • Plaid Cymru yn dathlu ond y Ceidwadwyr yn colli pob sedd yng Nghymru
  • Llyfr y Flwyddyn 2024: Mari George yn ennill gyda Sut i Ddofi Corryn

Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig

Y stori fawr wythnos yma oedd yr etholiad cyffredinol nos Iau (4 Gorffennaf).

Roedd y Blaid Lafur wedi cael noson lwyddiannus iawn ar draws gwledydd Prydain.

Mae ganddyn nhw o leiaf 410 o’r 650 sedd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Keir Starmer wedi dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ôl bod i gyfarfod y Brenin.

Keir Starmer yw seithfed Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig.

Yn ei araith yn Downing Street roedd Keir Starmer wedi diolch i Rishi Sunak am ei waith caled.

“Ond nawr mae’r wlad wedi pleidleisio’n bendant dros newid. Rydyn ni angen symud ymlaen gyda’n gilydd.”

Mae Rishi Sunak wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Roedd ei blaid wedi cael noson siomedig iawn yn yr etholiad. Dim ond 121 sedd sydd ganddyn nhw rŵan ar ôl colli 252 sedd. Rhai o’r enwau mawr sydd wedi colli eu seddi yw y cyn-Brif Weinidog Liz Truss, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps, Jacob Rees-Mogg a Penny Mordaunt.

“Dw i wedi clywed eich dicter a siom ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb am y golled hon,” meddai Rishi Sunak yn Downing Street.

Dros y Deyrnas Unedig roedd hi’n noson dda i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw wedi ennill o 72 sedd.

Mae Nigel Farage, arweinydd Reform UK, wedi dod yn Aelod Seneddol. Mae gan y blaid bedwar Aelod Seneddol rŵan.

Mae gan y Blaid Werdd bedair sedd hefyd. Dim ond un sedd oedd ganddyn nhw cyn yr etholiad.

Yn yr Alban, roedd hi’n noson siomedig i’r SNP. Dim ond naw sedd sydd ganddyn nhw rŵan. Roedd gan y blaid 48 sedd yn 2019.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan Sinn Féin y nifer uchaf o Aelodau Seneddol yn San Steffan am y tro cyntaf, gyda saith sedd.


Llafur yn ennill mwy o seddi yng Nghymru

Yma yng Nghymru, roedd Llafur wedi ennill 27 o’r 32 o seddi.

Roedd Llafur wedi adennill Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Wrecsam ac wedi cipio seddi newydd, sef Bangor Aberconwy, Gogledd Clwyd, Dwyrain Clwyd, Maldwyn a Glyndŵr a Chanol a De Sir Benfro gan y Ceidwadwyr.

Ond roedd cyfran y bleidlais i Lafur yn is nag yn 2019 – lawr i 37% o 40.9% yn 2019.

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, yn dweud y bydd cael dwy lywodraeth Lafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn golygu y bydden nhw’n gallu cydweithio ar un weledigaeth. Mae Vaughan Gething wedi dweud bod hyn yn “ddechrau cyfnod newydd o bartneriaeth”.


Llinos Medi, AS Plaid Cymru

Plaid Cymru yn dathlu ond y Ceidwadwyr wedi colli pob sedd yng Nghymru

Mae Plaid Cymru wedi ennill pedair sedd yn yr etholiad. Yn Ynys Môn, roedd Llinos Medi o Blaid Cymru wedi ennill sedd y Ceidwadwyr.

Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill yn Ynys Môn ers 1997.

Roedd Plaid Cymru hefyd wedi ennill sedd Caerfyrddin gan y Ceidwadwyr.

Mae’r blaid hefyd wedi cadw ei sedd yn Nwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.

Dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn “ganlyniad arbennig” i Blaid Cymru ond y gwaith rŵan yw “adeiladu at etholiad 2026”, meddai.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi colli pob sedd yng Nghymru. Ymhlith y Ceidwadwyr fydd ddim yn mynd nôl i San Steffan mae David TC Davies, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart ac Alun Cairns, Sarah Atherton, Craig Williams a Virginia Crosbie.

Virginia Crosbie yw’r Aelod Seneddol cyntaf ar Ynys Môn i golli ei sedd ers 1951.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill un sedd yng Nghymru, yn  Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, gan y Ceidwadwyr.


Mari George

Llyfr y Flwyddyn 2024: Mari George yn ennill gyda ‘Sut i Ddofi Corryn’

Sut i Ddofi Corryn gan Mari George sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

Dyma nofel gyntaf Mari George i oedolion. Mae wedi’i chyhoeddi gan Sebra.

Cafodd enw’r enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni yn Galeri Caernarfon nos Iau, (4 Gorffennaf).

Enillydd y brif wobr Saesneg yw Sarn Helen gan Tom Bullough. Cafodd y nofel ei chyhoeddi gan Granta.

Mae Mari George yn adnabyddus iawn fel bardd. Mae hi hefyd wedi addasu llyfrau i blant.

Roedd hi wedi ennill gwobr o £4,000 a thlws wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu awduron Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Plant a Phobl Ifanc.

Mae pob enillydd categori yn cael gwobr o £1,000.

Mae enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn cael £3,000 yn ychwanegol.

“Mae o’n deimlad anhygoel,” meddai Mari George ar ôl y seremoni.

Alla i ddim credu’r peth. Dw i mor freintiedig a diolchgar i’r beirniaid am ddewis Sut i Ddofi Corryn fel y prif lyfr.”

Dyma enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024:

Gwobr Ffuglen a Phrif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)

Y Wobr Farddoniaeth: Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)

Gwobr Barn y Bobl golwg360: Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Enillwyr y Wobr Saesneg:

Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)

Y Wobr Farddoniaeth: Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)

Gwobr People’s Choice nation.cymru: In Orbit, Glyn Edwards (Seren)