“Os dych chi’n meddwl bod addysg yn ddrud, rhowch gynnig ar anwybodaeth!”

Dyna oedd y geiriau ar sticer bympar o fy mlaen i wrth yrru yn ôl adre o brifysgol yng Nghaliffornia yn yr wythdegau. Mwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach, a dw i’n dal i gael fy atgoffa o’r dywediad hwn o dro i dro.

Plant yn y brotest tu allan i Gyngor Ceredigion

Er bod gwleidyddion yn parablu’n ddiddiwedd am bwysigrwydd addysg wrth iddyn nhw ymgyrchu cyn etholiad, maen nhw’n aml yn anghofio am eu haddewidion ar ôl i’r blychau pleidleisio gau. Mae ‘na wastad arian i wario ar arfau a rhyfeloedd, ond nid i fuddsoddi mewn pethau fel addysg. Ac yng Nghymru… addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn wedi bod yn broblem gyson.

Yn anffodus, mae bygythiad i’n hysgolion yng Ngheredigion.

Y broblem ddiweddaraf

Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion newydd gymeradwyo dechrau proses swyddogol o ystyried cau pedair ysgol wledig: Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig yr Wylfa yn y Borth, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd. Mae’r penderfyniad wedi wynebu gwrthwynebiad cryf gan rieni, disgyblion, ac ymgyrchwyr – gyda mwy na 150 o bobl yn protestio’r tu allan i gyfarfod y cyngor.

Protestwyr tu allan i Neuadd y Cyngor

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno cwyn swyddogol am y mater. Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg y Cymdeithas yr Iaith bod Cyngor Ceredigion “am danseilio nifer o gymunedau Cymraeg a’u gwagio o fywyd ifanc” ac yn mynd yn groes i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion i gynnal ysgolion gwledig.

Y ffordd ymlaen

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd ac wedi ymweld â Chymru tair gwaith hyd yn hyn, a dw i’n dal i ddarganfod y byd Cymraeg. Serch hynny, mae’n anodd i mi ddeall y sefyllfa hon. Gyda’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – a phwysigrwydd sylfaenol ein cymunedau Cymraeg – sut gallai cau ysgolion fel hyn wneud synnwyr? Dim ond i arbed arian?

Yn ei erthygl ar wefan Golwg360 yn ddiweddar, mae Huw Prys Jones yn trafod yr amryw gyfleoedd ar gyfer amddiffyn calon yr iaith, y diwylliant, a hunaniaeth Cymru. Mae’n sôn am bethau fel yr economi, amaethyddiaeth, twristiaeth, allfudo, a thai a chynllunio. Baswn i’n ychwanegu ein hysgolion Cymraeg at y rhestr.

Y protestwyr yn y cyfarfod

Dw i wrth fy modd gyda’r cysyniad o ‘gadarnleoedd y Gymraeg’ ac, wrth gwrs, yn cytuno’n llwyr fod angen eu hamddiffyn. Ro’n i’n trafod hyn gyda’m ffrind Nudd Lewis. Mae’n Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon, un o’r ysgolion dan fygythiad. Roedd Nudd Lewis wedi sôn am bwysigrwydd ein ‘cadarnleoedd Cymraeg naturiol’ – sy’n disgrifio ein hysgolion a’u cymunedau’n berffaith.

Pwysigrwydd personol

Fel dysgwr brwd sy’n gobeithio symud i Gymru, mae’n bwysig iawn i mi dreulio amser yn y cadarnleoedd ieithyddol i gryfhau a gwreiddio fy Nghymraeg. Dim ond drwy wrando ar yr iaith yn ei chynefin fydd yn bosib i mi ddod i ddeall y Gymraeg yn ddyfnach, eglurodd Nudd Lewis. A dim ond gyda’n hysgolion bydd rhai cadarnleoedd yn goroesi.

Rhowch gynnig ar anwybodaeth?

Na, dim diolch!