Roedd criw o ddysgwyr dosbarth Sylfaen Popeth Cymraeg wedi mynd ar daith i ardd Pont y Tŵr yn Rhuthun, Sir Ddinbych yn ddiweddar. Yma, mae Kate, Graham, Helen, Dennis, Chris, Debbie a Liz wedi ysgrifennu erthygl i Lingo360 am eu taith…


Y grŵp gyda Sioned Edwards (ail o’r chwith) a Cadno’r ci

Dan ni’n dysgu Cymraeg ar Zoom bob dydd Gwener efo Helen, ein tiwtor. Penderfynon ni gyfarfod wyneb yn wyneb i ddathlu diwedd y tymor.

Teithion ni o bob rhan o Gymru a Lloegr – Matlock yn Swydd Derby, Shaw, ger Manceinion, Caer, Llanfair TH, Llandrillo, Llangernyw a Garth.

Gaethon ni goffi, cacen a sgwrs dda yng Nghanolfan Grefft Rhuthun cyn mynd i ardd Pont y Tŵr. Dan ni’n mwynhau gwylio’r gyflwynwraig Sioned Edwards yn ei gardd ar y rhaglen Garddio a Mwy ar S4C ar nos Lun.

Mi gaethon ni groeso hyfryd gan Sioned a Cadno’r ci. Mi eglurodd Sioned hanes y tŷ a’r fferm. Roedd hi’n ddiddorol iawn.

Y golygfeydd anhygoel o Bont y Tŵr

‘Golygfeydd anhygoel’

Wedyn, mi wnaethon ni edrych o gwmpas yr ardd. Roedd ’na ardaloedd gwahanol efo twnnel tyfu llawn blodau, perllan, ardal wyllt, coed cnau, pob math o blanhigion a choed, ieir, geifr, a llawer o lefydd i eistedd i lawr i fwynhau golygfeydd anhygoel.

Mi wnaethon ni fwynhau crwydro o gwmpas yr ardd a sgwrsio efo Sioned.

Dan ni wedi cael llawer o syniadau, yn enwedig sut i ailddefnyddio ac ailgylchu pethau yn ein gerddi. Mi wnaethon ni fwynhau mwy o gacen a diod blodyn ysgawen wedi ei wneud gartref.

Blodau pinc yn yr ardd

Roedd Sioned yn siarad Cymraeg drwy’r amser. Wnaethon ni ddeall! Mae’n bwysig mynd allan a defnyddio’r Gymraeg dan ni’n ei dysgu yn y dosbarth.

Roedd hi’n ddiwrnod bendigedig a phrofiad bythgofiadwy i ni gyd. Dan ni eisiau mynd eto!

Y grŵp yn mwynhau ym Mhont y Tŵr
Gardd Pont y Tŵr