Mae Rhian Cadwaladr yn actor, awdur a cholofnydd Lingo Newydd. Mae hi’n byw yn Rhosgadfan ger Caernarfon. Mae Rhian yn lansio ei nofel newydd Gwaddol heno (nos Wener, 5 Gorffennaf). Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i Rhian yn y lansiad. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360.


Rhian, am beth mae Gwaddol?

Saga deuluol ydi hi. Mae hi’n dweud hanes pythefnos dyngedfennol ym mywyd tair cenhedlaeth o’r un teulu. Mae’n edrych ar y cysylltiad cymhleth sy’n dal teulu gyda’i gilydd, y cystadlu a’r cenfigen, y dyletswydd a’r cariad– a sut mae hyn yn newid wrth i’r rhai hŷn heneiddio a’r ieuenctid droi yn oedolion.

Beth oedd wedi ysbrydoli’r stori?

Y profiad o golli fy mam chwe blynedd yn ôl oedd wedi ysbrydoli’r stori, a’r ffordd y gwnaeth hynny newid fy mherthynas i a fy mrawd.

Pwy ydy’r prif gymeriad?

Myfi ydi’r matriarch sydd ar fin cyrraedd ei phen-blwydd yn 80 oed. Mae ganddi fab, Robin, a merch, Delyth. Trwy lygaid Delyth ydan ni’n gweld y rhan fwyaf o’r stori.

Ydach chi’n seilio’r cymeriadau ar bobl dach chi’n nabod?

Naddo. Ffrwyth dychymyg ydi holl gymeriadau fy nofelau.

Faint o nofelau dach chi wedi ysgrifennu erbyn hyn?

Hon ydi’r bumed nofel lawn ond dw i hefyd newydd gyhoeddi nofel fer i ddysgwyr lefel uwch – Hanna.

Lle mae’r lansiad heno?

Becws Melys (sef caffi fy mab!) yn Cei Llechi, Caernarfon am 7pm. Digwyddiad am ddim ac mi fydd Prosecco (neu baned) a chacen gaws ar gael!

Gwaddol gan Rhian Cadwaladr, Gwasg Carreg Gwalch, £8.99

Mae Gwaddol yn cael ei lansio fel rhan o Gŵyl Arall, Caernarfon heno (nos Wener, 5 Gorffennaf) yn Becws Melys, Cei Llechi Caernarfon. Mynediad am ddim, a chroeso i bawb.