Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Mae gen ti ysbryd yn yr atig.  Posib dy fod yn hoffi’r ysbryd ac yn hapus iddo aros yno.

Neu wyt ti eisiau i’r ysbryd fynd?

Naill ai esbonia pam rwyt ti’n hoffi’r ysbryd, neu ysgrifenna beth rwyt ti’n mynd i ’ddweud wrth yr ysbryd i’w berswadio fo i adael.

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.