Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes. Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi wedi bod yn nhref hynafol Cas-gwent yn Sir Fynwy, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr…


Mae gan Gas-gwent Lwybr Tref ardderchog sy’n mynd â chi ar droed trwy’r dref hynafol yma ger y ffin â Chymru a Lloegr.  Dw i’n mynd i Gas-gwent yn aml, a dw i wastad yn mwynhau’r siopau a’r caffis yno.  Dw i wedi colli cyfrif sawl gwaith dw i wedi cerdded o dan Borth y Dref.

Cafodd ei adeiladu gyntaf yn y 13eg ganrif, ond mae’r fersiwn sydd yno heddiw yn dyddio’n ôl i 1524. Byddai wedi cael giât a gwarchodfa yn yr hen ddyddiau. Mae’r ystafell fawr uwchben y bwa wedi bod yn garchar ac yn amgueddfa o’r blaen.

Amgueddfa Cas-gwent

Yr adeilad hanesyddol mwyaf yng Nghas-gwent yw’r Castell. Cafodd ei adeiladu o fewn misoedd ar ôl Brwydr Hastings yn 1066.  Roedd ei leoliad ardderchog ar Afon Gwy yn golygu nad oedd yn hawdd ymosod arno. Roedd hefyd yn gallu derbyn cyflenwadau o’r llongau trwy gydol y flwyddyn.

Mae Pont Gwy yn dyddio o 1816. Ar hyd lannau’r afon, mae cerrig yn nodi man cychwyn Llwybr Arfordir Cymru.

Tu mewn i’r amgueddfa

Amgueddfa Cas-gwent

Ar waelod canol y dref, ar draws y ffordd o faes parcio’r Castell a’r Ganolfan Ymwelwyr, mae Amgueddfa Cas-gwent.  Es i yno ar fy ffordd adref o’r Hen Orsaf yn Nhyndyrn i ymchwilio mwy am Deithiau Cychod Dyffryn Gwy. Mae’r Amgueddfa yn adeilad diddorol ynddo’i hun ac wedi’i lleoli mewn tŷ sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif.  Cafodd Tŷ Gwy ei adeiladu yn 1796 ar gyfer masnachwr, perchennog llongau ac apothecari lleol, Warren Jane.  Y tu mewn, mae grisiau troellog hardd yn arwain i fyny at lawr gyda ffenestr hirgrwn yn y nenfwd.  Mae’r adeilad wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol, ac mae pob ystafell yn llawn casgliadau am hanes Cas-gwent.

Yn 1792, roedd yr artist enwog JMW Turner wedi ymweld â Chas-gwent pan oedd yn 17 oed. Fe beintiodd “Castell Cas-gwent ar Afon Gwy”. Llwyddodd yr Amgueddfa i brynu’r paentiad gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r V&A.  Roedd y paentiad yn cael adfer ar y diwrnod es i yno, ond dw i’n edrych ymlaen at ei weld yn y dyfodol.

Cafodd Tŷ Gwy ei roi i’r Groes Goch i’w ddefnyddio fel ysbyty

Dathlu gwaith y Groes Goch

 Mae Amgueddfa Cas-gwent yn dathlu gwaith y Groes Goch a’r nyrsys oedd yn rhan o’r Didoliad Cymorth Gwirfoddol (VAD).  Roedd canghennau yng Nghas-gwent, Caerwent, Cil-y-coed, Magwyr, Y Fenni, Trefynwy a Chasnewydd.

Roedd Tŷ Gwy wedi cael ei adeiladu fel tŷ preifat. Rhwng 1907 a 1914, roedd yn ysgol i ferched ifanc.  Yn 1914, roedd y perchennog, Tom Valentine Ellis, wedi cynnig y tŷ i’r Groes Goch i’w ddefnyddio fel ysbyty. Roedd milwyr yn cael llawdriniaeth a thriniaeth feddygol gan ysbytai milwrol, ac yna’n cael eu trosglwyddo i ysbytai ategol i wella.  Roedd dros 3,000 o ysbytai ategol ledled y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mewn tai, neuaddau tref, gwestai ac ysgolion.

Yn ystod Covid, bu grŵp o wirfoddolwyr benywaidd yn gweithio ar-lein gyda’i gilydd i olrhain disgynyddion y nyrsys oedd wedi gweithio yn Nhŷ Gwy.  Gellir dod o hyd i rai o’r straeon hyn ar eu gwefan.