Yn fy ngholofn ddiwetha’ (Rhan 1), fues i’n trafod fy hoff wefan Gymraeg: Gweiadur.com a gafodd ei datblygu gan Nudd Lewis a D Geraint Lewis.

Yn ystod fy nhaith o amgylch Cymru eleni, ro’n i’n ddigon lwcus i gwrdd â’r tad a’r mab yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Roedden nhw’n ddigon caredig i ateb fy nghwestiynau i Lingo360…

Pawlie, Nudd a D Geraint Lewis

Pryd wnaethoch chi lansio Gweiadur, a pam wnaethoch chi daclo prosiect mor anferth?

Geraint: Ers cyhoeddi Geiriadur Gomer i’r Ifanc yn 1994, roeddwn i’n teimlo y dylai fod modd o fanteisio ar dechnolegau cyfoes i droi geiriadur yn rhywbeth rhyngweithiol, yn ogystal â llyfr. Tua throad y ganrif daeth cyfle i weithio gyda Chydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i greu CD-ROM o Geiriadur Gomer i’r Ifanc. Ond yn anffodus, doedd y dechnoleg bryd hynny ddim yn gallu delio â’r iaith Gymraeg – h.y. pethau fel dangos toeon bach ar “w” ac “y” a threfnu geiriau yn ôl yr wyddor Gymraeg, a bu rhaid rhoi gorau i’r cynllun. Ond bu CBAC yn ddigon caredig i drosglwyddo’r hyn a grëwyd i ni.

Nudd: Yn y cyfamser, cytunodd Gwasg Gomer gyd-weithio gyda ni i ail-greu cynnwys Geiriadur Gomer i’r Ifanc ar ffurf ddigidol, a chreais feddalwedd cronfa ddata ar gyfer hynny. Wedi hynny buodd Dad yn ychwanegu geirfa ehangach ato gyda’r bwriad o greu rhyw fath o “eiriadur pawb ar bopeth”, ond heb unrhyw gyfrol benodol mewn golwg. Bu Gwasg Gomer yn ddigon caredig i adael i ni gadw hawliau digidol y deunydd.

Geraint: Yn 2008, derbyniodd CBAC gais gan Wasg Gomer i greu geiriadur mwy uchelgeisiol ar gyfer myfyrwyr hŷn. Ffurfiwyd tîm o arbenigwyr dan arweiniad Susan Jenkins (CBAC) i greu Geiriadur Cymraeg-Saesneg, Saesneg-Cymraeg yn diffinio geiriau yn Gymraeg ac yn cynnwys y termau priodol ar gyfer arholiadau TGAU.

Nudd: Yn y cyfamser, roeddwn i wedi bod yn gweithio ar seilwaith dechnegol y Gweiadur, ac erbyn tua 2012 aeth y wefan yn fyw am y tro cyntaf.

Beth oedd y broses o benderfynu ar gatalog y geiriau, a faint o amser gymerodd i drosglwyddo a threfnu’r 500,000 o eiriau?

Geraint: Mae’r eirfa wedi datblygu’n raddol dros ddegawdau, yn gyntaf drwy Geiriadur Gomer i’r Ifanc, ac yna drwy ychwanegiadau’r “Geiriadur Pawb” damcaniaethol. Wedyn ychwanegwyd termau TGAU a mwy o eirfa hŷn ar gyfer Geiriadur Cymraeg Gomer. Erbyn hyn mae llawer o eiriau cyfoes a geiriau llafar wedi cael eu hychwanegu hefyd, felly mae’r gwaith yn dal i barhau!

Un nodwedd sy’n gosod Gweiadur ar wahân yw’r “Rhedwr Berf.” Mae’n cynnig dros ugain o amserau ar gyfer pob berf a berfenw. Pa mor anodd oedd y datblygiad hwn?

Nudd: Y gwaith anodd yn fan hyn oedd dadansoddi’r patrymau a’r eithriadau a gwirio bod pob berf yn y teulu iawn. Cafodd y gwaith gwirio yma ei wneud fel rhan o brosiect Geiriadur Cymraeg Gomer sy’n cynnwys tablau berfau ar bapur. Mater o drosi’r wybodaeth i mewn i raglen gyfrifiadurol oedd hi wedyn.

Gweiadur

Mae’r gallu i wneud chwiliadau gyda chamsillafiadau yn un peth sy’n gwneud Gweiadur mor hawdd i’w defnyddio. Syniad pwy oedd hynny?

Geraint: Doeddwn i ddim yn hoffi’r syniad o wefan ag un bocs gwag arno yn herio’r defnyddiwr i deipio rhywbeth i mewn, ac yna’n rhoi’r ateb “Computer says no!”, roeddwn i’n siŵr fod ffordd well o helpu’r defnyddiwr i ddod o hyd i beth oedden nhw’n chwilio amdano.

Nudd: Mae’r rhaglen yn defnyddio math o chwilio “fuzzy” sy’n caniatáu dod o hyd i eiriau sydd ychydig yn wahanol i’r hyn gafodd eu teipio i mewn. Mae hyn yn galluogi cynnig cywiriadau i gamsillafiadau.

Oes gyda chi unrhyw straeon difyr neu ddoniol o’r broses o ddatblygu Gweiadur?

Nudd: Busnes difrifol iawn yw creu geiriadur! Ond am dipyn, diffiniad y gair “geiriadurwr” oedd “hen ddyn bach blin”. Rwy’n cofio sawl camgymeriad yn y testun drafft yn cael ei esgusodi gyda’r ateb: “mae’n rhaid cynnwys ambell wall er mwyn medru gwirio os oes unrhyw un yn dwyn y testun heb ganiatâd!”

Nudd a Geraint

Unrhyw gyngor Cymraeg ar gyfer darllenwyr Lingo360?

Geraint: Mae’r Gymraeg yn wahanol i lawer o ieithoedd eraill am nad oes angen arnyn nhw lyfrau unigol ar – y Treigladau, Berfau, Ansoddeiriau, Arddodiaid a’r Rhifolion fel sydd gennym ni yn Gymraeg.

Unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ychwanegu?

Nudd: Diolch yn fawr am y cyfle i sgwrsio am y Gweiadur – mae’n wych clywed ei fod wedi bod yn gymaint o help i chi gyda’ch dysgu!