Antwn Owen-Hicks yw Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Cafodd ei enw ei gyhoeddi mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Mercher, 7 Awst).

Roedd 45 wedi trio ar gyfer y gystadleuaeth. Dyma’r nifer uchaf erioed i gymryd rhan yn y brif gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y tri arall oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol oedd Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth.

Y beirniaid oedd Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mynd nôl i’w wreiddiau

Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg bob dydd yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi bod yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Cafodd ei fagu mewn cartref di-gymraeg – ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.

Dechreuodd gymryd diddordeb yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain a dechrau dysgu Cymraeg pan ddaeth yn ôl i Gymru. Mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg.

Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy. Ei ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.

Mae’n un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg, Carreg Lafar. Mae’r band wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a gogledd America.

Roedd hefyd wedi dechrau cyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’ gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg.

Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Mae Antwn wedi derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn, gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, sy’n rhodd gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.

Mae’r tri arall yn y rownd derfynol yn cael tlws, sy’n rhodd gan Menna Davies, a £100 yr un, gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.

Bydd y pedwar hefyd yn cael tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan Merched y Wawr.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.