Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Rob Page wedi cael ei ddiswyddo
  • Canmol Taylor Swift am siarad Cymraeg
  • Cyhoeddi enillwyr Priodas Pymtheg Mil yn gynnar

Rob Page

Rob Page wedi cael ei ddiswyddo

Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi cael ei ddiswyddo.

Mewn datganiad, roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud eu bod nhw “wedi penderfynu terfynu cytundeb Rob Page”.

Roedd y Cymro wedi cael ei benodi dros dro yn 2020, ac yn barhaol yn 2022.

Roedd Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Ewro 2020, a Chwpan y Byd yn 2022 – am y tro cyntaf ers 1958.

Ond doedd Cymru ddim wedi cymhwyso ar gyfer yr Ewros – am y tro cyntaf ers 2012.

Yn ddiweddar, roedden nhw wedi cael gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Gibraltar, ac wedi colli o 4-0 yn erbyn Slofacia.

Roedd Rob Page wedi ennill 15 gêm allan o 45 gyda Chymru.

Roedd y Gymdeithas Bêl-droed, a’r capten Aaron Ramsey, wedi dweud ‘Diolch’ wrth Rob Page am ei waith.


 

Canmol Taylor Swift am siarad Cymraeg

Mae’r gantores Taylor Swift wedi cael ei chanmol am siarad Cymraeg yn Stadiwm Principality nos Fawrth (Mehefin 18).

Roedd 68,000 o ‘Swifties’ yn y dorf. Roedd sŵn byddarol pan oedd hi wedi dweud “Shwmae” a “Croeso i daith Eras”.

Roedd un o’i chriw ar y llwyfan hefyd wedi dweud “ych a fi”.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn “ffantastig” clywed Cymraeg ar y llwyfan, a bod “y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd”.

Mae’r Llywodraeth eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.


Cyhoeddi enillwyr Priodas Pymtheg Mil yn gynnar

Roedd S4C wedi cyhoeddi enillwyr y rhaglen Priodas Pymtheg Mil rai diwrnodau yn gynnar yr wythnos hon.

Mae S4C yn dweud bod canllawiau’r gystadleuaeth wedi cael eu torri “yn ddamweiniol“.

Bydd Aled Johnson a Malin Gustavsson o Sir Benfro yn cael gwireddu eu priodas berffaith yn  rhaglen.

Mae Malin yn dod o Sweden yn wreiddiol, a bydd hi ac Aled yn priodi eleni.

Doedd y pâr arall, Teresa a Rutger o Lanrug, ddim “yn gymwys” i fod yn y gystadleuaeth.