Mae Pegi Talfryn yn awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg. Yma mae hi’n rhoi tips i ddysgwyr Cymraeg am newid yr amser…


Mae Saesneg yn iaith anodd.  Rhaid i chi newid yr amser ar bob berf:

I ate, drank and danced all night.

Does dim problem yn Gymraeg.  Dim ond y gair cyntaf sy’n dangos yr amser:

Dw i’n cael paned o de yn y gegin, rhoi pethau brecwast ar y bwrdd, bwydo’r gath a pharatoi bocsys cinio i’r plant.

Ro’n i’n cael paned o de yn y gegin, rhoi pethau brecwast ar y bwrdd, bwydo’r gath a pharatoi bocsys cinio i’r plant.

Mi faswn i’n cael paned o de yn y gegin, rhoi pethau brecwast ar y bwrdd, bwydo’r gath a pharatoi bocsys cinio i’r plant.

Mi wna i gael paned o de yn y gegin, rhoi pethau brecwast ar y bwrdd, bwydo’r gath a pharatoi bocsys cinio i’r plant.

Mi fydda i’n cael paned o de yn y gegin, rhoi pethau brecwast ar y bwrdd, bwydo’r gath a pharatoi bocsys cinio i’r plant.

Dyma frawddegau roedd dosbarth Popeth Cymraeg wedi’u hysgrifennu yr wythnos hon:

Dw i’n ymarfer ysgrifennu, bwyta brecwast, yfed coffi, ac yn eistedd.

Mi fydd pobol yn canu, dawnsio, ac yn gwrando ar gerddoriaeth yn Eisteddfod Llangollen.

Roedden ni’n chwarae tennis, yfed sudd oren, ac yn gwylio Wimbledon ar y teledu.

Mi fwytes i gacen, bisgedi, brechdanau ac yfed coffi.

Fyddi di’n gwylio’r bêl-droed dydd Sadwrn?

Mi fydda i’n gwylio’r bêl-droed, bwyta mini cheddars, gwisgo crys Lloegr ac yn yfed llawer o fodca.

Ro’n i’n codi am hanner awr wedi saith, yfed paned o goffi, bwydo’r gath, gwisgo, ymolchi, gwylio’r newyddion ar y teledu yna mynd i’r gwaith.

Mi fydd fy chwaer i yn priodi ym mis Gorffennaf.

Mi fydda i’n gwisgo ffrog las, dawnsio, bwyta llawer o crepes ac yn yfed gwin coch.

Ddoe mi es i i siopa, prynu bwyd yn Tesco, cerdded adre a choginio’r bwyd.