Dyma’r cyntaf mewn cyfres o golofnau gan Bee Hall sy’n byw ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae hi wedi bod yn athrawes, awdur a golygydd ond bellach wedi ymddeol. Mae Bee wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2020 gyda Popeth Cymraeg. Mae hi’n hoffi cerddoriaeth glasurol, croeseiriau cryptig, darllen, a choginio. Ond, yn arbennig, mae’n hoffi darganfod Cymru. Dros y misoedd nesaf, fe fydd Bee yn dweud hanes rhai o’r llefydd mae hi wedi darganfod…


Mi wnes i symud i ogledd Cymru bum mlynedd yn ôl ac roeddwn yn edrych ymlaen at ddarganfod y lleoedd hyfryd a diddorol gerllaw. Dw i’n byw mewn pentref bach ger Rhuthun, tref ar lan Afon Clwyd ac sydd wedi’i hamgylchynu gan fryniau Clwyd.

Yr Hen Lys, Rhuthun

Mae Rhuthun yn hen dref farchnad gyda llawer o adeiladau hanesyddol. Mae’r Hen Lys yn Sgwâr San Pedr yn dyddio o’r 15fed ganrif. Roedd wedi gwasanaethu fel llys hyd at 1663. Mae’n bwysig yn hanes Cymru oherwydd roedd byddin Owain Glyndŵr wedi ymosod arno yn 1400. Cafodd y dref ei llosgi bron yn gyfan gwbl. Heddiw mae’r adeilad wedi’i adfer ac ar gael ar gyfer digwyddiadau.

Wrth gwrs mae Rhuthun hefyd yn enwog am ei chastell, sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Adeiladodd Brenin Edward I o Loegr y castell gwreiddiol. Mae plac ar furiau’r castell yn dweud: “Ymosodwyd arno yn 1400 gan Owain Glyndŵr a bron iddo gael ei difrodi yn 1646.”

Adeilad ffram bren yn y dre

Heddiw mae’r castell yn westy gyda gerddi hardd gyda pheunod.

Ond mae gan y dref fwy na hanes. Mae yna Ganolfan Gelf a Chrefft fodern gyda stiwdios, arddangosfeydd a chaffi. Gyda’i siopau bach annibynnol, bwytai, tafarndai a pharc, mae’n werth ymweld â’r dref. Os cewch gyfle, dw i’n siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser yn y dref.

Bydd Bwncath yn perfformio yng Ngŵyl Rhuthun yfory (Dydd Sadwrn 29 Mehefin) ar ôl wythnos o ddigwyddiadau diwylliannol a cherddorol ar draws y dref.

Castell Rhuthun
Paun digywilydd yng ngardd y castell!