Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Storm Bert: Grantiau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd
  • Cymorth i farw: ASau yn pleidleisio o blaid y bil
  • Heddlu’r Gogledd yn helpu’r FBI i arestio dyn yn Llanrwst
  • Dros 2,000 o bobol ifanc wedi cael gwersi Cymraeg am ddim yn 2023-24

Storm Bert: Grantiau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd

Roedd Storm Bert wedi achosi llawer o ddifrod ar ddechrau’r wythnos. Roedd y llifogydd gwaethaf yn ne Cymru.

Cafodd dros 430 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd ac mae llawer o fusnesau hefyd wedi dioddef.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i awdurdodau lleol i helpu pobl sydd wedi’u heffeithio. Bydd grantiau o £1,000 i gartrefi heb yswiriant, neu £500 i gartrefi oedd gydag yswiriant.

Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan, a’i dirprwy Huw Irranca-Davies, wedi ymweld â chymunedau gafodd eu heffeithio.

“Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol, a dw i’n gwybod y bydd pobol ledled Cymru yn teimlo’n ofidus ac yn bryderus drostyn nhw eu hunain, eu hanwyliaid sydd wedi’u heffeithio, a’u bywoliaeth,” meddai Huw Irranca-Davies yn y Senedd.

“Mae Storm Bert wedi ein hwynebu unwaith eto gyda’r realiti o beth fydd digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru.”

Roedd 125 o gartrefi a busnesau wedi’u heffeithio yn Rhondda Cynon Taf, 90 ym Merthyr, 75 ym Mlaenau Gwent, o leiaf 50 yn Nhrefynwy, 50 yng Nghaerffili, 15 yn Nhorfaen, chwech ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin, tri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Sir y Fflint, dau yng Nghaerdydd, ac un yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Dŵr Cymru yn gofyn i bobl yn rhannau o sir Rhondda Cynon Taf i barhau i ferwi eu dŵr tan 8 Rhagfyr.

Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £300m i awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru.

Mae Jayne Rees yn gwirfoddoli yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd. Mae hi’n dweud eu bod nhw wedi llwyddo i gadw’r dŵr rhag dod i mewn i’r adeilad. Ond mae rhai busnesau eraill wedi dioddef, meddai, fel y siopau bychain yn Stryd y Felin yn y dref.

“Mae’n druenus gweld beth mae pobol wedi gorfod taflu mas o’u siopau nhw.

“Mae siop lyfrau Storyville wedi gorfod cael gwared a lot o lyfrau newydd sbon.

“Rydyn ni’n lwcus ym Mhontypridd, ar Stryd y Felin mae yna lot o siopau annibynnol.

“Ond mae rhywbeth fel yma’n mynd i’w taro nhw’n waeth na’r siopau mawr.”


Protestwyr yn erbyn y Bil cymorth i farw tu allan i San Steffan

Cymorth i farw: ASau yn pleidleisio o blaid y bil

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid y bil sy’n galluogi cymorth i farw.

Roedd ASau wedi pleidleisio o 330 i 275, sef mwyafrif o 55. Roedd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth.

Dyma’r cam cyntaf. Bydd yn arwain at gyfraith newydd os yw’n cael ei gymeradwyo’n llawn. Cyn hynny, bydd pwyllgor o ASau yn gallu gwneud gwelliannau, cyn mynd i Dŷ’r Arglwyddi. Mae’n debyg na fydd newid yn y gyfraith tan o leiaf y flwyddyn nesaf.

Os ydy’n dod yn gyfraith, mae’n golygu bydd oedolion sydd yn dioddef o salwch terfynol, y mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis, yn gallu cael cymorth i farw.

Ar hyn o bryd mae’n anghyfreithlon i annog neu gynorthwyo hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr.

Roedd tri aelod o Blaid Cymru wedi pleidleisio o blaid – Ben Lake, Llinos Medi a Liz Saville Roberts, ac Ann Davies wedi pleidleisio yn erbyn.

Liz Saville-Roberts ydy Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd. Cyn y bleidlais, roedd hi wedi dweud ei bod hi’n “credu mewn agwedd dosturiol ac urddasol at farw â chymorth”.

Ond, mae hi’n dweud bod “rhaid i ni wella gofal lliniarol, cyn ac ar ôl unrhyw bleidlais ar farw â chymorth”.


HeddwasHeddlu’r Gogledd yn helpu’r FBI i arestio dyn yn Llanrwst

Mae Heddlu’r Gogledd wedi helpu’r FBI i arestio dyn o’r Unol Daleithiau yn Llanrwst, Sir Conwy.

Roedd Daniel Andreas San Diego, 46, ar restr o droseddwyr mwyaf difrifol yr FBI.

Mae Daniel Andreas San Diego yn cael ei amau o derfysgaeth ar ôl dau achos o fomio yn San Fransisco yn 2003.

Cafodd ei arestio ym Maenan ger Llanrwst ddydd Llun (25 Tachwedd).

Mae’r FBI wedi bod yn chwilio am Daniel Andreas San Diego ers degawdau. Mae e wedi bod o flaen ynadon yn Llundain ac wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’n wynebu cael ei anfon yn ôl i’r Unol Daleithiau.

Roedd gwobr ariannol o $250,000 (£199,000) wedi cael ei gynnig am wybodaeth fyddai’n arwain at ei arestio.


Paned a sgwrs yn Ysgol Langstone

Dros 2,000 o bobol ifanc wedi cael gwersi Cymraeg am ddim yn 2023-24

Mae dros 2,000 o bobol ifanc a staff ysgol wedi manteisio ar wersi Cymraeg am ddim yn ystod 2023-24.

Dyma’r ail flwyddyn mae’r gwersi Cymraeg wedi cael eu cynnig am ddim i bobol ifanc 16-25 oed a staff ysgolion.

Mae Melody Griffiths yn 17 oed ac yn dod o Wrecsam. Roedd hi wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni.

Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ym Mlwyddyn 11. Mae hi wedi trefnu Clwb Cymraeg yn ei choleg.

“Mae’r clwb yn cyfarfod bob wythnos,” meddai.

“Mae’r myfyrwyr yn dod i ddysgu mwy am y Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru drwy gwisiau a sgyrsiau hamddenol.

“Dw i’n meddwl mai’r peth gorau am siarad Cymraeg yw fy mod i’n gallu cysylltu â Chymru yn well – drwy ei diwylliant a’i llenyddiaeth.

“Mae’n anodd deall y rhain os nad ydach chi’n siarad Cymraeg.”

‘Cyflwyno’r iaith i’r plant

Mae gwersi Cymraeg am ddim hefyd wedi helpu staff ysgolion i ysbrydoli dysgwyr.

Penderfynodd grŵp o athrawon yn Ysgol Gynradd Langstone yng Nghasnewydd i ddysgu’r iaith ar ddechrau’r cyfnod clo. Maen nhw rŵan yn mwynhau dysgu Cymraeg a helpu’r plant i ddysgu’r iaith.

Mae Paula Watts yn un o athrawon yr ysgol. Mae hi’n dweud: “Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg. Dw i’n manteisio ar bob cyfle posib i gyflwyno’r iaith i’r plant ar draws yr ysgol.

“Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg i helpu’r plant i wneud brawddegau, cyflwyno geirfa newydd, a chynnal sgwrs syml.

“Mae gennym sesiwn paned a sgwrs bob bore Mawrth am 8:15yb, sy’n rhoi cyfle i staff sgwrsio yn Gymraeg dros baned.

“Mae Dydd Mercher Cymraeg yn un o’n hoff ddyddiau ni a’r plant – rydyn ni’n cael llawer o hwyl ac yn dechrau’r dydd gyda gemau a chaneuon Cymraeg.”

Mae llawer o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i bobol ifanc 16-25 oed sy’n cael eu cynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’n cynnwys cyrsiau blasu a chyrsiau lefel Mynediad i ddechreuwyr, hyd at lefelau Uwch a Gloywi ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac mewn dosbarthiadau rhithwir, ac mae adnoddau dysgu digidol ar gael hefyd.

Mark Drakeford ydy’r Ysgrifennydd Cyllid a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Mae’n dweud: “Mae’r fenter hon yn golygu ei bod hi’n haws nag erioed i bobol ddysgu Cymraeg.

“Mae gwella sgiliau Cymraeg pobol ifanc fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd yn bwysig iawn.

“Mae hyn yn rhan o’n gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ac yn iaith fodern sy’n cael ei defnyddio bob dydd.

“Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Dona Lewis ydy Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hi’n dweud:  “Mae gwaith y Ganolfan gyda phobol ifanc yn mynd o nerth i nerth, ac mae cyrsiau ac adnoddau yn cael eu datblygu gan arbenigwyr iaith y Ganolfan.”