Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Teyrngedau i John Prescott
- Ffermwyr yn protestio yn Llandudno
- Eira yn cau ysgolion ac yn achosi problemau i deithwyr
- Agor cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 i geisiadau
Teyrngedau i John Prescott
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r Arglwydd John Prescott, sydd wedi marw’n 86 oed.
Roedd ganddo glefyd Alzheimer.
Roedd John Prescott yn gyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur. Roedd wedi bod yn y swydd rhwng 1997 a 2007. Does neb wedi bod yn ddirprwy brif weinidog am amser hirach na fe.
Roedd yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Kingston upon Hull am 40 mlynedd.
Roedd yn ffigwr allweddol yn Llafur Newydd o dan Tony Blair.
Roedd wedi ymuno â chabinet cysgodol Llafur yn 1983.
Daeth yn arglwydd yn 2010. Roedd wedi parhau’n weithgar yn y blaid Lafur ac wedi cynghori Ed Miliband a chefnogi Jeremy Corbyn.
Daeth ei gyfnod yn Nhŷ’r Arglwyddi i ben eleni yn dilyn cyfnodau o salwch.
Mae ei deulu’n dweud mai cynrychioli ei etholaeth oedd ei “anrhydedd fwyaf”.
Cafodd ei eni ym Mhrestatyn. Roedd wedi gadael yr ysgol pan oedd yn 15 oed i fynd i’r Llynges Fasnachol. Wedyn aeth i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.
Roedd John Prescott yn gallu bod yn ffigwr dadleuol. Pan ddaeth i Gymru yn 2001 roedd wedi taro dyn.
Cafodd ei daro gydag wy gan brotestiwr wrth gerdded i mewn i rali Llafur yn y Rhyl.
Roedd e wedi taro Craig Evans, wnaeth achosi ffrwgwd.
Dywedodd John Prescott ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun. Roedd e wedi gwrthod ymddiheuro.
Mae llawer o deyrngedau wedi cael eu rhoi iddo. Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru yn dweud: “Trist iawn i glywed am farwolaeth John Prescott. Wedi ei eni ym Mhrestatyn, roedd yn gawr gwleidyddol, gyda bron i 40 mlynedd fel Aelod Seneddol a degawd fel Dirprwy Brif Weinidog.
“Daeth John Prescott i lansio fy ymgyrch ym Mhortmeirion pan wnes i sefyll i fod yn Aelod o Senedd Ewrop yn 1994.
“Cawson ni lwyth o goffi a croissants yn barod i’r wasg, a wnaeth neb droi lan!
“Roedd e’n ei dweud hi’n blwmp ac yn blaen, ac roeddech chi bob amser yn gwybod lle’r oeddech chi’n sefyll.
“Fe wnaeth e gysylltu mewn ffordd doedd eraill yn methu gwneud – yn ddarn allweddol o’r jig-so i’r Llywodraeth Lafur.
“Bydd colled ar ei ôl yn y mudiad Llafur.
“Anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf at ei ffrindiau a’i deulu.”
Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae’n dweud: “Yn llais dosbarth gweithiol o fewn y Blaid Lafur, roedd yn gymeriad go iawn oedd yn sefyll yn angerddol dros yr hyn roedd e’n credu ynddo fe – un o’r olaf o frîd gwahanol,” meddai.
“Dw i’n drist iawn o glywed am ei farwolaeth, ac mae fy meddyliau gyda’i deulu.”
Mae wedi’i ddisgrifio fel “cawr” gan Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, hefyd.
“Trist o glywed am farwolaeth John Prescott. Cawr y mudiad Llafur.
“Roeddwn yn ffodus o gael ei gyfweld pan oeddwn yn newyddiadurwr ifanc. Di-flewyn-ar-dafod. Caled! Ond gyda gwên, fe ddywedodd yr hyn roedd e’n ei feddwl, ac yn meddwl yr hyn roedd e’n ei ddweud.
“Fy nghydymdeimlad â’i anwyliaid.”
Ffermwyr yn protestio yn Llandudno
Roedd cannoedd o ffermwyr wedi bod yn protestio yn Llandudno dydd Sadwrn diwethaf (16 Tachwedd). Roedd cynhadledd y Blaid Lafur yn cael ei chynnal yno.
Roedd llawer o dractorau wedi parcio ar y promenâd tu allan i Venue Cymru yn y dref.
Roedd ffermwyr o Gymru hefyd wedi mynd i Lundain ddydd Mawrth (19 Tachwedd) i gymryd rhan mewn protest yno.
Maen nhw’n protestio yn erbyn newidiadau i’r dreth etifeddiaeth.
Roedd y Canghellor, Rachel Reeves, wedi cyhoeddi’r newidiadau yn ei chyllideb.
Mae ffermwyr wedi beirniadu’r newidiadau i’r dreth. Mae rhai ffermwyr yn dweud bydd yn rhaid gwerthu tir i dalu’r dreth.
Ers 1992, mae wedi bod yn bosib trosglwyddo ffermydd o genhedlaeth i genhedlaeth heb orfod talu treth etifeddiaeth.
Ond mae’r newidiadau’n golygu y bydd ffermydd sy’n werth dros £1m yn gorfod talu treth etifeddiaeth o 20%. Mae opsiwn i’w dalu dros 10 mlynedd.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud mai nifer fach o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn. Maen nhw’n dweud bod y system yn deg ac yn diogelu ffermydd bach.
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud na fydd y llywodraeth yn newid y polisi.
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cefnogi’r newidiadau i’r dreth etifeddiaeth.
Mae hi’n dweud bod ffermwyr yn gwneud “cyfraniad pwysig iawn i’n gwlad”, ac na fydd llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Andrew RT Davies ydy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae e wedi cyhuddo Keir Starmer o “fradychu” ffermwyr.
Eira yn cau ysgolion ac yn achosi problemau i deithwyr
Roedd eira wedi cyrraedd Cymru ddechrau’r wythnos. Roedd llawer o ysgolion wedi cau ac roedd wedi achosi problemau i deithwyr.
Roedd tua 160 o ysgolion wedi cau ym Mhowys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ddydd Mawrth (19 Tachwedd).
Roedd rhybudd melyn am eira a rhew hyd at ddydd Mercher, ond roedd mwy o eira wedi cyrraedd erbyn diwedd yr wythnos. Roedd rhai ffyrdd wedi cau a damweiniau mewn rhai llefydd.
Yn y cyfamser mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm dros y penwythnos wrth i Storm Bert daro’r DU.
Mae’r rhybudd mewn lle ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Môn, Sir Benfro, Powys a Wrecsam.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud bod disgwyl i rhwng 50-75 mm o law ddisgyn yn ystod y penwythnos, yn enwedig yn ne Cymru. Mae’n bosib y bydd llifogydd mewn rhai llefydd a phroblemau i deithwyr.
Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hefyd hyd at 60mya heddiw (dydd Sadwrn).
Agor cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 i geisiadau
Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 wedi agor i geisiadau.
Bydd y sioe fyw yn cael ei chynnal nos Wener, Chwefror 28. Am y tro cyntaf erioed bydd yn cael ei chynnal yn stiwdios ffilm Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn cyflwyno’r noson.
‘Ti’ gan Sara Davies o Landysul oedd wedi ennill y gystadleuaeth yn Arena Abertawe eleni.
Bydd y cerddor Osian Huw Williams, o’r band Candelas, yn cadeirio’r rheithgor ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i’r enillydd. Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £5,000. Bydd enillydd yr ail wobr yn cael £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn cael £2,000.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 5. Bydd cyfle i wylio Cân i Gymru yn fyw ar S4C. Bydd tocynnau ar gael yn fuan.
Mae Osian Huw Williams yn dweud: “Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth hollol unigryw ac yn medru lansio cerddorion o’r ystafell fyw yn syth i’r llwyfan mawr.
“Mae’n ffordd wych o gael dy enw di allan yno, yn enwedig i bobol ifanc sy’n dechrau eu gyrfa.
“Felly, os oes gan rywun alaw sydd yn styc yn eu pen, riff sydd ar flaen eu bysedd, neu eiriau sydd yn drwm yn eu calonnau – dyma’r cyfle.
“Cerwch amdani – does yna ddim byd yn eich stopio chi!”
Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth.